MR. OWEN ROBERTS. CAMBRIA, WISCONSIN.
Ychydig nodion coffadwriaethol am Mr. Owen Roberts, Tylase, yr hwn a fu farw yn Cambria, Wisconsin, Awst 28ain, 1866, yn 76 mlwydd oed.Bu yn gystuddiol am fis o ddyddiau. Ei glefyd oedd y Chronic Diarrhrea. Gadawodd weddw a phump o blant, a chylch eang o berthynasau i alaru am dano.
Wrth ysgrifenu ychydig nodion am dano, rhaid i mi ofalu am ddau beth, sef peidio dyweyd dim o duedd chwyddedig, a bod yn fyr.
Anfoddlonid ef yn wastad gan ysgrifenwyr cofiant, os troseddent y naill neu'r llall.
Hen gartref a phreswylfod O. R. yn Nghymru oedd Tylase Isaf, Penmachno, Sir Gaernarfon. Oddi yno yr ymfudodd i'r wlad hon. Cymerodd iau Crist pan yn 23 mlwydd oed. Gweithiodd yn ei winllan am 50 o flynyddoedd, Treuliodd y 19 olaf o honynt yn y gymydogaeth hon. Gwasanaethodd yr achos crefyddol am lawer iawn o flynyddoedd, naill ai fel ysgrifenydd neu drysoryäd, yn Nghymru ac America, ac ni bu ei gywirach, na'i fanylach yn y swydd erioed. A da fyddai i bawb sydd gyda'r cyfryw orchwylion gofio yn wastad, nad oes ond y manylrwydd mwyaf trwyadl a wna y tro gyda chyfrifon cymdeithas.
Bu O. R. hefyd yn arwain y gynulleidfa i ganu am yr yspaid maith o 25 o flynyddoedd yn Nghymru, a bu yn dda lawer gwaith yn America ei fod ef wrth gefn - er yn hen ŵr - pan y dygwyddai godi ar ddechreuwr llai cyfarwydd. Dyn dystaw oedd O. R. Yr oedd yn rhy gall i glebran llawer. Yr oedd yn hoff iawn o gymdeithas, ac yr oedd llon'd ei galon o gyfeillgarwch; eto yr oedd yn hynod o ddystaw.
Yr ydym ryw sut yn hwyrfrydig i ddysgu mai dynion lled ddystaw yw y dynion pwysicaf mewn cymdeithas. Mewn cymeriad y mae pwysau, nid mewn siarad. Gwna tri gair a grym cymeriad yn gefn iddynt ddyfnach argraff na myrddiwn o eiriau rhyw fath o ddynion, er iddynt fod yn ddigon gramadegol, ac efallai athronyddol hefyd. Nid yw colofn o fwg ond defnydd sport i'r awel chwareugar, i'w chwalu a'i dileau Biewn ystyr. Nid yw tynged y siaradus yn aml ond cyffelyb yn ei gysylltiad â chymdeithas; tra mae i bob un ei ddawn ei hun gan Dduw.
Dylem gofio hefyd fod tueddiadau yn derbyn llawer o nerth oddiwrth ymarferiad. Y dyn sydd a'i feddwl yn weithgar, a'i dafod yn ddiog, yw yr agosaf i dir y Beibl. Un felly, i raddau helaeth, oedd O. R. trwy ei oes.
Am bethau y byd, ychydig a ofalai nac a drafferthai yn eu cylch er ys amryw flynyddoedd. Bu yn ddiwyd ac yn fforddiol yn ei amser gyda'i amgylchiadau tymhorol; ac yn ôl yr hen ddiareb, fod yn rhaid i'r hwn a gasglo gyfoeth ofyn caniatad y wraig, gwnaeth ef hyny, ac atebodd Mrs. Roberts ef yn gadarnhaol, felly buont yn eithaf llwyddiannus. Ond yr oedd er ys tro wedi rhoddi pob gofalon bydol heibio i fesur mawr. Eithr am grefydd, ni bu erioed yn fywiocach, nac yn gysonach, nag yn ei flynyddoedd olaf. Byddai yn gyson ac yn brydlon yn moddion gras; cymerai ran ynddynt gyda pharodrwydd meddwl, eto bob amser gyda gwyleidd-dra mawr; ac yr oedd ei waith yn darllen cymaint gartref yn awgrymu íod ei ewyllys yn nghyfraith yr Arglwydd.
Pan ddaeth amser cystudd a marw, nid oedd yn brysio. Yr oedd ei galon yn ddisigl yn ymddiried yn yr Arglwydd. Bydd rhai yn croesi yr afon mewn lle cul - myned trwodd cyn i neb feddwl; ond am O. R. croesodd ef mewn lle llydan; ond os oedd yn llydan, nid oedd yn ddofn, na thonog iawn. Yr oedd yn gallu dy weyd bob dydd pa fodd yr oedd arno, ac yr oedd ei feddwl yn sirioli fel yr oedd yr ochr draw yn nesau; ac ar y dydd a nodwyd ar y dechreu, cafodd ei draed ar dir yr addewid.
Claddwyd ef yn mynwent Cambria. Yr oedd amlygrwydd cyhoeddus ar y pryd y golygai cymdeithas ef yn un o rai rhagorol y ddaiar; ac nis gellir cofio am dano hyd heddyw heb hiraeth ar ei ôl. Ac er fod ameer yn casglu llwch ar adgofion yr hen bobl dda a sefydlasant gyntaf yn y parthau hyn, ond sydd yn awr gan mwyaf yn y bedd, eto pan ddelo achlysur i ddwyn eu henwau o amgueddfa y cof i oleuni dydd, mae rhyw beth yn taro y meddwl fod addurn duwioldeb wedi ei gerfio yn ddwfn ar lawer o honynt. Ac er fod yr oes hon yn mlaen mewn rhai pethau da ar yr hen bobl, eto mae lle i ofni nad yw symlrwydd crefydd mor amlwg.
Dymunwn wrth derfynu hyn o nodiadau, adgofio yn ddifrifol i deulu caredig, a chyfeillion lluosog Mr. Roberts, mai wrth ddilyn ei esiampl y mae ennill ei gymeriad, a bod meddu ei gymeriad yn fwy o werth nag etifeddiaethau llydain.