MRS. MARY ROWLANDS. HAFOD, WELSH PRAIRIE, WISCONSIN.
Ebrill 21ain, 1866, Mrs. Mary Rowlands, o'r Hafod, Welsh Prairie, Wisconsin, yn 79 mlwydd oed, wedi dod mewn henaint i'r bedd, fel y cyfyd ysgafn o ŷd yn ei amser. Y mae tori ymaith yn haner y dyddiau yn fygythiad oedd yn cael ei gyhoeddi am fod yn rhy annuwiol. Ac y mae hir-hoedledd yn cael ei chydnabod fel ffafr oddiwrth Dduw i ddynion. Y mae dau beth neillduol yn caniatau rhyddid i'm cydwybod yn bresenol i osod cymeriad ein chwaer allan i'r cyhoedd, sef tystiolaeth gyffredinol yr ardal, yn nghyd a'r hir-hoedledd oedd hi wedi gael ar y ddaiar i weled daioni.Y mae agosâu i waeyd sylwadau ar gymeriad oedranus yn creu teimlad o ŵylder a pharch bob amser yn y doeth a'r synwyrol. Pe ddywedodd Elihu pan oedd yn nesâu at Job a'i gyfeillion, i'r dyben i'w hargyhoeddi o'u camsyniadau - "Ieuangach ydwyf o oedran na chwi, chwithau ydych hen iawn, am hyny yr arswydais. Dywedais, Dyddiau a draethant, a lluaws o flynyddoedd a ddysgant ddoethineb." Felly dylem ninau gydnabod gyda pharch, ac agosaù gyda gwylder, at gymeriadau ag sydd wedi eu cynnal am oes hir faith, a dal allan gymeriad da trwy yr oes faith hono.
Daeth ein chwaer, yn nghyd a'i phriod, John Rowlands, a thri o'u plant drosodd i'r wlad hon er ys tua phymtheng mlynedd yn ôl, o Hafod Lwyfog, Beddgelert, Gogledd Cymru. Buont oll feirw o'i blaen hi, sef ei gŵr a'i dwy ferch a'i mab. Ar ôl colli yr oll o'i theulu, symudodd at ei mab, John J. Rowlands, yr hwn oedd yma o'i blaen, ac yma y cafodd bob parch ac ymgeledd hyd awr ei marwolaeth.
Yn y Diwygiad mawr fu yn Meddgelert er ys oddeutu deugain mlynedd yn ól, ymunodd a chrefydd gyda'r Methodistiaid Calfinaidd yn y lle hwnw, a daliodd ati yn ddifwlch hyd ddiwedd ei hoes.
Fel gwraig, yr oedd yn ddiwyd fel Dorcas. Byddai bob amser yn "casglu y briwfwyd gweddill, fel na choller dim." Cafodd lawer iawn o afiechyd yn ystod ei hoes, ond bob tro cafodd ei hadferyd hyd yr ystorm fawr ddiweddaf. Daeth brenin y dychryniadau yn mlaen, a dywedodd wrthi nad oedd bwrw arfau yn y rhyfel hwnw. Ac er i natur wneyd pob ymdrech, ar ei goreu, colli'r dydd a wnaeth. Ac y mae angau wedi ei chymeryd yn garcharor am dymhor o dan gloion rhydlyd ystafelloedd oerion brenin braw. Ond yr ydym ni sydd ar ól fel brodyr a chyfeillion mewn gwir ddiogel obaith am dani, y gwel foreu eto ag y caiff ymuniawni yn iach ar ól hirfaith hûn y grafel, ac y caiff y corff hwnw ddarfu i ni roddi i orwedd mewn gwendid yn llwch y llawr ei gyfodi i fyny eto mewn nerth ysbrydol, ac y caiff y tafod sydd yn awr wedi ei gloi â mudanrwydd gan angau, ei ollwng yn rhydd i ganu y Funeral Song yn angladd angau ei hun.
Nid oedd yn rhyw hynod o ddeallus na goleu iawn gynta golwg ar bynciau mawr iachawdwriaeth dyn, ond rhoddai ambell i awgrym yn awr ac eilwaith i ba le yr oedd yn gogwyddo. Gofynodd un brawd iddi y boreu Sabboth diweddaf ond un y bu byw ar y ddaiar, pa fodd yr oedd yn teimlo wrth feddwl am y daith fawr a dyeithr yr oedd ar gychwyn iddi? Atebodd, ei bod yn hollol benderfynol mentro y cwbl am byth i ofal y Cyfiawn fa farw dros yr anghyfiawn ar Galfaria fryn, a'i bod yn credu ei fod yn ddigon byth.
Gofynwyd unwaith i'r duwiol John Newton pa faint oedd yn hanfodol angenrheidiol i ddyn wybod cyn y gallasai fod yn gadwedig? Atebodd Newton, mai dau beth mawr oedd y cwbl ag oedd o bwys, ag oedd ef yn wybod, sef gwybod ei fod yn bechadur mawr o'r fath waethaf, a'i fod hefyd yn gwybod fod Crist yn Geidwad mawr, abl i waredu yr euocaf, a'i fod hefyd yn mentro y pechadur mawr hwnw ar y Ceidwad mawr, ac mai dyna y cwbl oedd yn wybod yn sicr; ac y mae hyn yn dangos nad ydyw iachawdwriaeth uwchlaw amgyffred y gwanaf ei ddeall a'i amgyffredion.
Peth arall oedd ynddi oedd teimlad o ymostyngiad i ewyllys Duw yn ngwyneb ei oruchwyliaethau ati yn ei chystudd olaf. Nid ydwyf fi yn gwybod am un grefydd ar y ddaiar sydd a digon o nerth yn ei dylanwad i roddi nerth i'r meddwl trallodedig, a hyny yn llifeiriant dyfroedd mawrion ond y grefydd Gristionogol yn unig, ond y mae hon yn gwneyd.
Gofynodd ei merch, Mary Roberts, iddi un diwrnod, pa un a fuasai yn well ganddi ai aros tipyn yn hŵy ar y ddaiar, ai ynte cael ei gollwng yn fuan? Atebodd mai gwell oedd ganddi gaei myned yn rhydd cyn gynted ag y gwelsai yr Arglwydd fod yn dda ganiatau hyny iddi. Ac am 11 ar gloch dydd Sadwrn, yr 21ain o Ebrill, ehedodd ei rhan anfarwol at yr Hwn a'i rhoes. Mae rhyw beth yn y Cristion yn marw fel ag yr ydwyf yn fy myw yn methu ei ddeall, sef, ei fod yn gallu tynu yr hapusrwydd mwyaf, a hyny oddiar y seiliau cadarnaf, yn nyfnderoedd y dyfroedd dyfnaf. Yr ydwyf wedi cael cysur droion yn y desgrifiad hwnw y mae Montgomery yn roddí o agwedd y Cristion yn marw, pan y mae yn dyweyd -
"When, with a dying hand, he waves adieu
To all who love so well, and weep so true,
Calm as an infant; to the mother's breast,
Turns fondly longing for it's wonted rest,
He pants for where congenial spirits stray,
Turns to his God, and sighs his soul away,"
Ar y dydd Mawrth canlynol, ymgasglodd amryw o'r cymydogion i wneyd y gymwynas olaf i'n hanwyl hen chwaer, sef ei symud i dŷ ei hir gartref, lle y caiff aros mewn tawelwch nes bo'r Arch-angel yn bloeddio bywyd i dywyll fro marwolaeth, ac yna
"Daw dydd i'r cyfiawn dranoeth têg,
Daw iddo chwaneg estyn,
Daw iddo o'r bedd godiad i fyw,
Deheulaw Duw a'i derbyn."
CYRUS.