MRS. ELEANOR SWANCOAT. GENESSE, WISCONSIN.

Ebrill 21ain, 1866, yn Genesee, Wisconsin, Eleanor, priod Mr. Thomas Swancoat.

Merch ydoedd i Jeremiah ac Ann Jones, Ty'n y Braich, plwyf Cwm-pen-aner, Sir Feirionydd. Ganwyd hi Rhagfyr 25, 1809. Cafodd ei dwyn i fyny yn yr eglwys gyda'r Trefnyddion Calfinaidd, a bu yn aelod esmwyth ar hyd ei hoes.

Medi 23ain, 1830, cymerodd yr iau briodasol gyda Mr. T. Swancoat; ac yn y flwyddyn 1850, ymfudasant i'r wlad hon o Sir Drefaldwyn. Bu iddynt 9 0 blant, sef chwech o feibion a thair o ferched.

Claddwyd Margaret eu merch Mehefin 15fed, 1865, yn 17 mlwydd oed. Mae yr henaf eto gyda'i pherthynasau yn yr Hen Wlad. Gellir dywedyd fod Mrs. Swancoat yn wraig rinweddol, yr oedd yn hynod ofalus am yr addoliad teuluaidd, ac yn hynod gyson yn moddion gras, ac yn llafurus iawn yn dwyn ei phlant i fyny yn addysg ac athrawiaeth yr Arglwydd, a hyny mewn cynghorion ac esiamplau, ac ni bu ei llafur yn ofer, canys y maent oll yn glynu wrth y Cerbyd. Mae yn ymnddangos y byddai yn meddwl ddwywaith cyn siarad unwaith, ac nid dyweyd un peth a meddwl peth arall a wnai, ond llefaru fel ei gweler. Yr ydoedd o dymher hynod fwynaidd, ond nid yn rhy lwfr i argyhoeddi y rhai fyddai yn myned ar gyfeiliorn. Nid aml y byddai yn uchel o ran ei phrofiad, eto yr oedd y rhai oedd fwyaf cydnabyddus â hi yn cwbl gredu fod gwreiddyn y mater wedi ei gael ynddi. Byddai yn darllen llawer, ac yn myfyrio, ac yn dra hoff o'r ystafell ddirgel.

Dyoddefodd ei chystudd yn hynod dawel, a dywedai fod yn dda ganddi am yr Archoffeiriad Mawr, yr hwn oedd yn medru cydymdeimlo â gwendidau ei bobol. Ond cyn gadael y tŷ o0 glai, daeth y geiriau hyny gyda rhyw lewyrch neillduol i'w meddwl, "Dy noddfa yw Duw tragwyddol, ac oddi tanodd' y mae'r breichiau tragywyddol. Efe a wthia dy elyn o'th flaen, ac a ddywed, Dyfetha ef." A thystiai fod y gelyn yn cael ei wthio o'i blaen hithau, a'i bod yn tawel orphwys ar drefn fawr y cymmod, ac felly hi a hunodd yn yr Iesu.

Hebryngwyd ei rhan farwol i dŷ ei hir gartref Ebrill 24ain. Gweinyddwyd ar yr achlysur yn y tŷ gan y Parch. Daniel Jenkins, ac wrth y bedd gan y Parch. Owen Hughes, ac yn y capel gan ysgrifenydd hyn o linellau.
J. H. EVANS.

Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Gorphenaf 1866.