MRS. ELINOR WILLIAMS. BERLIN, WISCONSIN.
Gorphenaf 3ydd, 1866, yn Berlin, Wisconsin, Elinor, priod Mr. Thomas Williams, brawd i'r diwedd ar Mr. Morris Williams, New York.Merch ydoedd Mrs. Williams i Robert a Catherine Williams, Dorothy Qnarry, Llanllyfni, Swydd Gaernarfon, Gogledd Cymru. Yr oedd wedi ei magu yn eglwys Dduw, ond ymddengys iddi adael y tŷ am yspaid byr. Buan y profodd mai bywoliaeth dlawd sydd yn y byd, ac y trodd ei gwyneb drachefn i dŷ ei Thad.
Ymfudodd i'r wlad hon tua ugain mlynedd yn ôl, gyda'i brawd Robert.
Wedi bod yn preswylio tua phum' mlynedd yn ninas New York, ymbriododd â Mr. T. Williams. Bu iddynt bump o blant, o ba rai nid oes ond dwy yn weddill yr angau, i alaru eu colled ar ôl mam dyner a gofalus, ac a fu yn ddiwyd iawn yn ei thymor i'w magu yn addysg ac athrawiaeth yr Arglwydd. Byddai yn dda pe byddai mamau yn fwy cyffredinol yn ei hefelychu yn hyny.
Cafodd gystudd caled am yn agos i flwyddyn, ac ymddangosai fel yn ymfoddloni ac yn ymostwng yn fwy i'r ewyllys Ddwyfol, fel yr oedd y diwedd yn agosau.
Wrth adael priod cystuddiol a dwy eneth fach yn bur ieuainc, ymgysurai yn ei addewid Ef, y byddai 'yn Dad i'r amddifaid, ac yn Parnwr i'r gweddwon yn ei breswylfa sanctaidd.' Ymgysurai hefyd lawer yn anghyfnewidioldeb ei Cheidwad. Dywedai, "Yr oedd yn derbyn pechaduriaid pan yma ar y ddaiar; a chan ei fod yr un ddoe a heddyw, ac yn dragywydd, y mae yn derbyn pechaduriaid eto."
Bu yn boenus iawn ar hyd y nos o flaen ei marwolaeth. Dywedai ei bod wedi gwaeddi ar Iesu Grist ar hyd y nos, a thystiolaethai wrth ei phriod ei bod yn cael sail i gredu ei fod yn ei gwrandaw.
Claddwyd hi ar y 5ed, a phregethodd y Parch. Hugh Davies yn y tŷ, oddiar y geiriau, "Gwell yw enw da nag enaint gwerthfawr, a dydd marwolaeth na dydd genedigaeth."