MRS. MARGARET WILLIAMS. UTICA, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.
Gorphenaf 27ain, 1866, yn Utica, New York, yn 67 mlwydd oed, ar ôl tair wythnos o gystudd, o'r Diarrhcea, Mrs. Margaret Williams, gweddw y diweddar John Williams, yr hwn a fu farw naw mis yn flaenorol, yn Floyd, New York, gynt o Laniestyn, Sir Gaernarfon, Gogledd Cymru.Dydd Llun canlynol, claddwyd ei gweddillion marwol yn mynwent Westernville, wrth ochr ei phriod, a gweinyddwyd ar yr achlysur gan y Parch. Thomas Williams. Adnabyddid hi fel un o heddychol ffyddloniaid Israel, ac oblegid hyny y mae ei choffadwriaeth yn fendigedig.