MRS. MARGARET WILLIAMS. UTICA, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.

Ionawr 1866, yn Utica, bu farw Mrs. Margaret Williams, priod Mr. Roland Williams, yn 78 mlwydd oed.

Treuliodd foreu ei hoes yn ei bro enedigol sef Trawsfynydd, bu am bedair blynedd yn ardal Llanuwchllyn, ac wyth mlynedd a deugain yn Utica.

Yn mhen ychydig flynyddoedd ar ôl dyfod i'r wlad hon priododd â Mr. Roland Williams a bu iddynt bump o blant. Bu dau o honynt feirw o flaen eu mam, ond y mae un mab a dwy ferch eto yn fyw i gyd alaru â'u tad ar ôl un a wnaeth ei rhan yn dda yn ei dydd fel priod anwyl a mam dyner ddiwyd a gofalus.

Cafodd ein chwaer hon y fraint o gael ei dwyn i fyny gan rieni crefyddol a chafodd hithau ei derbyn yn aelod eglwys pan nad oedd ond tair ar ddeg oed gan y Parch. William Jones, Penystreet, Trawsfynydd. Ond gwelsom er galar rai yn cyfodi yn forau, ond wedi hyny yn myned i rodiana neu yn ymollwng i gysgu ganol dydd. Ond nid un felly oedd Mrs. Williams, ond treuliodd dri-ugain a phump o flynyddoedd yn llafurus yn y winllan.

Ac er ei bod gwedi bod yn gystuddiol y saith mlynedd diweddaf o'i hoes, ac yn methu dod i'r addoldy, eto yr oedd yn golled genym gael ein hamddifadu o'i chwmpeini hyd yn oed pan oedd ar ei chlaf wely, byddai ei chyfeillach yn felus a'i chyngborion yn ddwys, a gwyddem ei bod yn gwneyd ei goreu o blaid y weinidogaeth yn ei gweddiau. Ac nid ydym yn anobcithiol na wrandewir y gweddill o'i gweddiau yr amser dyfodol.

Dydd ei chladdedigaeth daeth nifer luosog o Gymry a Saeson yn nghyd i dalu y sylw olaf i'w gweddillion. Cyn cychwyn y corph o'r ty dygwyd yn mlaen wasanaeth crefyddol gan yr ysgrifenydd, yna awd i Forest Hill ccmetery, a rhowd y corph yn y receiving vault, ac ymadawsom gan ddywedyd, Marw a wnelwyf o farwolaeth yr uniawn a bydded fy niwedd i fel yr eiddo yntau.
JAMES GRIFFITHS.

Y Cenhadwr Americanaidd ~ Mawrth 1866.