PARCH. ROBERT WILLIAMS. LA-CROSSE, WISCONSIN.
Yr oedd blys arnaf roddi peniad yr ysgrif hon yn syml, "Robert Williams, LaCrosse." Gwyddai pawb yn Wisconsin, a llawer trwy y wlad, 50 a 60 mlynedd yn ol, pwy oedd Robert Williams, La Crosse. Nid oes eisieu na pharch na pherchen o flaen, nac ar ol ei enw, er ei fod yn bregethwr enwog, ac yn meddu cryn lawer o eiddo. Ond erbyn hyn y mae oes wedi codi, ac y mae yr enw yn swnio yn ddyeithr i'w clustiau, ac y mae ei hanes yn ddyeithr i'r rhan fwyaf o honynt.Ganwyd ef yn agos i Rhostryfan, Gogledd Cymru, yn mis Chwefror, 1813. Bu farw, Medi 15fed, 1866, pan yn 53 mlwydd oed, ac y mae 53 mlynedd er hyny; felly pe yn fyw buasai heddyw yn 106 oed. Collodd ei fam pan tua saith oed, ac fel bechgyn yr ardaloedd y pryd hwnw, aeth i'r chwarel pan yn wyth neu ddeg oed. Pan tua 17, aeth i chwarel y Penrhyn (Chwarel y Cae, neu Caebraichycafn, neu fel y byddai rhai o'r hen bobl yn ei galw, "Chwarel Cabrachcafn").
Cyn hir aeth am drip (neu am dramp fel y dywedent yno), rhyngddo a'r Deheudir, drwy Llangollen, Ffestiniog, Machynlleth, a.y. a chyn hir daeth yn ol i Bethesda, lle y bu am wyth mlynedd, nes iddo fyned i'r Iwerddon i arolygu chwarel, lle y bu am tua chwe blynedd, nes iddo ymadael am yr America yn haf 1845. Wrth daflu golwg arno eto tra yr oedd yn yr Hen Wlad, gellir dweyd ei fod yn fachgen cryf, bywiog, bochgoch, penfelyn, gweithgar, yn cymeryd dyddordeb mewn dirwest a chyda'r Ysgol Sabbothol, yn ddarllenwr dyfal iawn. Yr oedd yn grefyddol iawn ei ysbryd hefyd. Yr oedd crefydd yn uchel yn yr oes hono, mor uchel yr vdym yn tybied yn hanes cyntaf y ganrif ddiweddaf yn Nghymru ag y bu erioed.
Yn wir, mae yn ameus genyf a fu crefydd yn uwch mewn un wlad erioed, a chymeryd pob peth i ystyriaeth, nag oedd yn Nghymru yn yr adeg hono. Ceir yn y cofiant hwn gyfamod a wnaeth a Duw pan yn yr Iwerddon, yn Seisneg: "This day, February 27th, 1841, I do solemnly enter," a.y. Yr wyf wedi synu uwchben y cyfamod hwn, 20 llinell, a'r oll mewn Seisneg da. Pa fodd y dysgodd y gwr ieuanc Seisneg mor dda, ac wedi treulio ei oes yn Nghymru, ond ryw ddwy flynedd yn yr Iwerddon, ac heb braidd ddim ysgol? Un gair hynod sydd yma: "In a total dependence on his abstersive and assisting grace." Mae "abstersive" yn hollol briodol, o'r ferf Ladin, "abstergo," to wash, to cleanse; ond mae yn hynod ansathredig. Credwyf mai anhawdd iawn fyddai ei gael yn llenyddiaeth Seisneg y tair canrif ddiweddaf.
Gorphenaf 18fed, 1845, cychwynodd Robert Williams am y byd newydd yn y hwyl-long, Republic. Yr oedd llu mawr o Gymry ar fwrdd y llong hon. John R. Daniel, y pregethwr wedi hyny; ei dad, ei fam, a'i chwaer; John Owens, y canwr, Proscairon; Jabez Lloyd, adnabyddus yn Cambria a Blue Earth Co.; Robert Rowlands, Penygwrhyd, Welsh Prairie, a llawer eraill. Yn eu plith yr oedd mam yr ysgrifenydd. "Bum chwech wythnos ar y mor," arferai hi ddweyd. "Robert Williams, La- Crosse, oedd yn gadben arnom ni." Yr oedd efe yn medru Seisneg, yr hyn oedd o werth mawr iawn, o herwydd yr oedd y Seisneg yn brin iawn; haner y Cymry ar y bwrdd, hwyrach, heb braidd wybod beth oedd "yes" a "no."
Yr oeddynt yn glanio yn New York, Awst 30ain, a daeth llawer iawn o honynt yn mlaen i Wisconsin, a sefydlodd Robert Williams cyn hir yn Rock Hill. Rhyfedd iddo setlo yn Rock Hill. Ystyrid Rock Hill yn dir pur wael, cryn lawer o dywod yno, ac yr oedd R. W. yn ddyn o farn hynod dda mewn pethau felly; ond yno y bu am oddeutu saith mlynedd.
Yn y cyfnod yna, Chwefror 22ain, 1847, priododd Miss Margaret Griffiths, Columbus, Wisconsin. Daeth y teulu i Columbus, Wisconsin, o bias Llanwnda, ger Rhostryian. Wedi saith mlynedd yn Rock Hill, aeth R. W. i Middle Granville, New York, am flwyddyn i arolygu chwarel; yna yn ngwanwyn 1855, aeth i Milwaukee, lle y bu yn weinidog eglwys y T. C. am bedair blynedd, hyd wanwyn 1859, pan symudodd i Ddyffryn La-Crosse, lle y treuliodd y saith mlynedd olaf o'i oes, ac y diweddodd ei yrfa fel y crybwyllwyd.
Teimlwn mai dyn hynod oedd R. W. Wrth edrych dros ei hanes a'i gymeriad, yr ydym yn methu peidio teimlo ei fod yn ddyn anghyffredin. Dyn mawr ydoedd. Dyn mawr, cryf, cawraidd. Nid oedd yn dal, ond yn llydan ei ysgwyddau, yn gadarn, yn pwyso at ddiwedd ei oes, 250. Ysgwyddau llydain, y gwyneb cryf, llawn, y talcen uchel, llydan, y llygad byw, cryf, treiddgar. Yr oedd ei feddwl yn cyfateb i'w gorff. Dywed y duwinyddion wrthym mai y meddwl, neu yr enaid sydd yn adeiladu y corff, fel mae y saer yn adeiladu y ty, neu yn hytrach, fel y mae y perchenog yn adeiladu y ty i'w foddio ei hun. Yr oedd meddwl R. W. yn fawr, yn gryf, yn gawraidd. Yr oedd yn ddyn mawr mewn amryw gyfeiriadau: fel darllenwr, fel dyn gwybodus, ac ystyried na chafodd fawr o ysgol; yn fawr fel llenor, fel duwinydd, fel pregethwr. Dywedir ei fod yn deall cyfreithiau y wlad yn dda. Yr oedd yn argyllidydd (financier) o radd uchel.
Yr wyf yn cofio pan ddaeth y newydd i Proscairon, dywedodd fy mam: "Diar mi, Robert Williams, La Crosse, wedi marw; dyn mor gryf, mor iach!" Atebodd fy nhad: "Beth yw cryfder, beth yw iechyd yn erbyn angeu?" Yr oedd y dyrnwyr wrth y bwrdd yn y ty ar y pryd, a dwedodd un o honynt: "Mae nhw yn dweyd ei fod o yn werth $5 y dydd." Hyny y dydd o log ar ei arian oedd y dyn yn feddwl, tybed? Yr oedd y llog y pryd hwnw yn 10 y cant, a buasai $5. yn llog ar oddeutu $18,000. Yr oedd hyn yn swm anferth yn yr oes hono; rhywbeth yn debyg i dri neu bedwar can mil heddyw, neu haner miliwn. Adrodd yr hyn ddywedodd y dyn yr wyf; pa mor gywir, nis gwn. Beth bynag, yr oedd R. W. yn feddianol ar eiddo mawr, ac eto yn ddyn gonest, cywir, ymddiriedol a haelionus. Pan fyddai dynion yn methu talu llog iddo yn ei amser, byddai yn hynod amyneddgar.
Y mae yr hanes geir yn y cofiant hwn (y casglydd yw y Parch. John J. Roberts, Columbus) yn ein synu am ffyddlondeb R. W. gyda'r moddion yn Milwaukee, ac yn La Crosse Valley. Mae yma lythyrau oddiwrth flaenoriaid ac aelodau yn Milwaukee, ac yn eglwysi La Crosse, yn dweyd yr ai drwy bob tywydd i'w cyhoeddiad, ac am y gydnabyddiaeth fechan oedd, os dim. Nid wyf yn cofio gweled R. W. erioed. Pymtheg oed oeddwn pan fu farw. Yr wyf bron yn sicr na fu yn Proscairon ar ol symud i LaCrosse yn 1859, ac ni chlywais iddo erioed ddod yno o Milwaukee, lle yr aeth yn 1856. Mae yn ddiau iddo fod yno pan yn byw yn Rock Hill, yn ymyl, dim ond rhyw wyth milldir, ond yr oeddwn i yn rhy fychan i gofio. Ond clywais lawer o son am dano fel un o bregethwyr mawr, ac yn enwedig un o ddynion mawr Cymanfa Wisconsin, ac ni wnaeth darllen y cofiant hwn ddim ond codi fy syniad am dano yn uwch nag yr oedd o'r blaen.
Gan Dr. Daniel Williams