MR. WILLIAM WILLIAMS. SIXTY, STEUBEN, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.
Nos Sabboth, Awst 5ed, 1866, yn ardal Sixty, plwyf Steuben, sir Oneida, Efrog Newydd, yn ddisymwth iawn yn ei wely, Mr. William Williams, yn 74 mlwydd oed.Yr oedd yu enedigol o blwyf Aber, sir Gaernarfon, Gogledd Cymru, gelwid ei gartref yr Henfaes.
Ymfudodd i'r wlad hon gyda ei briod, yr hon oedd enedigol o blwyf Llangelynin yn yr un sir - gelwid ei chartref Cae'r Llwyn, yn y flwyddyn 1830.
Treuliasant 32 o flynyddoedd yn ardal Sixty, a 4 blynedd yn mhlwyf Floyd. Yr oedd ein cyfaill yn ddyn llafurus, gofalus, tawel a chymydogol, pawb yn yr ardal ac iddo air da.
Yr oedd er ys rhai blynydd- oedd yn lled analluog gan effeithiau y parlys, a digon tebyg mai dyrnod ganddo ef a'i cymerodd ymaith.
Gadawodd ar ei ôl weddw oedranus a dau fab, un o ba rai yw y meddyg medrus H. Ll. Williams, Utica. Claddwyd ef yn barchus wrth addoldy y Wesleyaid yn Sixty, a gweinyddwyd gan y Parch. R. Everett, D. D., a'r ysgrifenydd.