MRS. MARY CLOSS, FAIRHAVEN, VERMONT.
Ion. 27ain, yn Fair Haven, Vermont, yn 38 mlwydd oed, Mrs. Mary Closs.Merch ydoedd i Mr. John ac Elizabeth Owens, Genegwen, Llanberis, Sir Gaernarfon, a chyfnither i'r Parch. David H. Jones (Dewi Arfon.) Lladdwyd ei thad yn y chwarel pan oedd hi yn bur ieuanc. Wedi ei farwolaeth ef, daeth Mrs. Closs i fyw at ewythr iddi, lle y bu yn aros am rai blynyddoedd. Magwyd hi yn yr eglwys, a chyd ag un eithriad, a hwnw ond am dymhor byr, dilynodd broffes dda hyd ei marwolaeth.
Nid oedd neb yn yr eglwys yn barotach i adrodd ei brofiad na hi, a byddai hwnw bob amser wedi ei sylfaenu ar ryw ran o'r Ysgrythyr.
Ymwelais â hi amryw weithiau yn ei chystudd diweddaf. Siaradai lawer am wir grefydd, a dywedai mai amser i fwynhau, ac nid i geisio crefydd, oedd gwely angau. Nid oedd yn proffesu sicrwydd gobaitb, eto meddai obaith cryf am fwynhad helaeth o'r etifeddiaeth anllygredig, a dihalogedig, a diddiflanedig, yr hon sydd yn nghadw yn y nefoedd i'r saint.
Adroddai yr hen bennill melys hwnw amryw weithiau yn ei chystudd:
"O cymer fi, Iesu, fel yr wy',
A chuddia fi yn dy glwy',"
Dywedai ei bod wedi rhoddi ei hun i'r lesu lawer canwaith o'r blaen, ond nad oedd yn sicr ei bod wedi gwneyd hyny yn iawn erioed. Yn yr hydref diweddaf, adeiladwyd tŷ newydd iddi; ond dywedai wrth chwaer a ddaethai i ymweled â hi, nad oedd erioed wedi rhoddi ei chalon arno fel dinas barhaus ei phreswylfod, a cheisiai ddyrchafu ei meddwl drwyddo at y "tŷ nid o waith llaw, tragywyddol yn y nefoedd."
Cynghorai lawer ar ei phriod i ymofyn am wir grefydd tra y mae yn bosibl ei chael. Buasai yn dda ganddi gael byw ychydig yn hŵy i fagu ei rhai bychain, ond ymdawelai, a chyflwynai hwynt i'r Arglwydd, gan ddyweyd ei fod Ef yn abl i ofalu am eu cyrff a'u heneidiau. Cafodd gystudd byr, ond tra phoenus; eto credwn ei fod "yn odidog ragorol, yn gweithredu tragywyddol bwys gogoniant" iddi hi.
Naw diwrnod i'r adeg y bu farw, rhoddodd enedigaeth i un bychan. Ni wellaodd, ond yn foreu y dydd cyntaf o'r wythnos, bu farw mewn tangnefedd heddychlawn, a'i llygaid yn gweled iachawdwriaeth yr Arglwydd.
Gadawodd briod a phump o blant i alaru eu colled ar ei hol.
Y dydd Mawrth canlynol, ymgasglodd tyrfa luosog o gyfeillion yn nghyd i dalu y gymwynas olaf i'n chwaer ymadawedig. Pregethwyd yn y capel gan yr ysgrifenydd, oddiar 2 Cor. i. 17, a 5. 1; a gweinyddwyd wrth y bedd gan y Parch. R. L. Herbert. Heddwch i'w llwch. Gorphwysed ei hûn yn dawel yn y graian oer nes datod trefn y rhod.