MR. GRIFFITH EDMUNDS. MILWAUKEE, WISCONSIN.

Ebrill 17eg, 1867, yn Ninas Milwaukee, Wisconsin, yn 51 mlwydd oed, y brawd Griffith Edmunds. Ei glefyd oedd y Darfodedigaeth. Bu yn nychu dano am oddeutu pum' mlynedd; ac er nad oeddym yn meddwl na buasai yn gwella, eto hynod o annysgwyliadwy yn ngolwg ei gyfeillion agosaf y cymerwyd ef ymaith

"I blith y cyntaf anedigion,
Ag sydd yn y nef yn awr."

Brodor o Sir Caernarfon ydoedd. Bu fyw amryw flynyddoedd yn Swydd Oneida, lle y mae iddo lawer o berthynasau a lluaws o gyfeillion.

Ymunodd â chrefydd yn adeg y Diwygiad yn Remsen. Trigasai am amser yn ninas Boston; a thua deuddeng mlynedd yn ôl ymsefydlodd yn Milwaukee, lle bu yn aelod cyson a ffyddlon o Eglwys Crist hyd derfyn, ei oes.

Teimlwn golled ar ei ôl, nid yn gymaint am ei fedrusrwydd i siarad, na'i allu i ddirnad egwyddorion crefydd, ag am ei symlrwydd, ei onestrwydd, a'i ffyddlondeb yn dilyn moddion gras. Y Duw yn yr hwn yr ymddiriedodd ein brawd a ofalo am y weddw a'r plant; a chyflawned yr Arglwydd ei addewid yn y teulu hwn, fel y byddo y meibion yn dyfod yn lle y tadau, rhai a fyddant yn dywysogion yn yr holl dir.

Claddwyd ef yn nghladdfa Genesee. Gweinyddwyd ar yr achlysur yn y tŷ, a phregethwyd pregeth angladdol yn yr addoldy i gynulleidfa luosog gan y Parcb. W. Hughes, Racine.

Heddwch i'w lwch hyd y boreu ag y bydd

"Dorau beddau y byd
Ag un llef yn agoryd."
RICHARD EDWARDS.

Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Awst 1867.