MR. JOHN D. EDWARDS. WEST BANGOR, PENNSYLVANIA.
Mehefin 6ed, 1867, yn West Bangor, Pennsylvania, Mr. John D. Edwards.Brodor ydoedd o'r Waen Fawr, Sir Gaernarfon, Gogledd Cymru. Yn mhen tua dwy flynedd ar ôl priodi, symudodd i Lanllechid, lle yr ymgymerodd â chrefydd gyda'r T. C, a pharhaodd yn aelod o'r Cyfundeb hwnw hyd ei angau. Symudodd o Lanllechid drachefn i Aberdar, De Cymru, ac oddi yno yr ymfudodd i America, yn y flwyddyn 1858. Felly treuliodd naw mlynedd o'i oes yn America, ac o'r naw treuliodd wyth yn West Bangor.
Yr oedd ychydig uwchlaw 50 mlwydd oed pan fu farw, wedi treulio y 28 mlynedd diweddaf o honynt yn eglwys Crist. Cafodd un dalent neillduol gan ei Arglwydd, os nad ychwaneg, a chafodd y fraint o farw heb guddio arian ei Arglwydd. Hynodrwydd arall ynddo oedd ei ffyddlondeb a'i brydlondeb yn dyfod i foddion gras. Ac nid y lleiaf o nodweddion ei garictor ydoedd ei ofal am ei blant, ei ddiwydrwydd yn addysgu ei blant yn ffyrdd yr Arglwydd, a'i ofal am fod allor Duw ag aberth foreu a hwyr arni.
Cafodd ei gaethiwo i'w dŷ y gauaf a'r gwanwyn diweddaf. Trwy ei gystudd maith a blin, yr oedd ei feddwl yn cartrefu gyda phynciau mawrion ei iachawdwriaeth, ac yn benaf oll gyda Pherson a gwaith yr Arglwydd Iesu.
Mae yma wraig a phedwar o blant wedi eu gadael ar ei ôl i hiraethu a galaru am dano.
E. F. J.