MR. EVAN ELLIS. FAIR HAVEN, VERMONT.
Mehefin 8fed, 1867, yn Fair Haven, Vermont, o'r Dysentery, bu farw y brawd Evan Ellis, yn 54 mlwydd oed.Mab ydoedd i Ellis a Jane Evans, o'r Celyn, Llanddeiniolen, a brawd i'r Parch. Robert Ellis, Blaen-y-waen, Swydd Gaernarfon.
Ganwyd ef yn y Garnedd, Llanddeiniolen, ddydd Iau Dyrchafel, l8l3. Magwyd ef yn yr eglwys, ond fel llawer eraill, llithiwyd ef i faes y byd pan yn dra ieuanc, a bu yn ngwasanaeth y diafol am flynyddau lawer. Aml yr ymofidiai yn ddwys o herwydd treulio o hono gynifer o flynyddau goreu ei oes yn ngwasanaeth diafol a phechod; a chynghorai yr ieuenctyd yn fynych i gymeryd rhybudd oddiwrth ei ffolineb ef. Cydnabyddai ei hun y "penaf o bechaduriaid," ac addefai ei fod wedi ymgaledu mewn pechod, ac wedi ymdrybaeddu mewn llygredigaeth. Ond wedi i ran fawr o'i einioes fyned heibio yn "gweithredu ewyllys y cenedloedd," Duw, yr hwn sydd gyfoethog o drugaredd, ac o herwydd ei fawr gariad tuag ato, a ymwelodd ag ef yn nhrefn ei ras, a thrwy nerthol weithrediad cadernid y gallu hwnw a gyfododd Grist o feirw, ac a'i hachubodd ef megys "pentewyn o'r gyneu dân." A mynych iawn y clywid ef mewn anerchion, a gweddiàu yn canmol cadernid a digonolrwydd trefn gras ar gyfer hen bechadur fel efe.
Oddeutu 16 mlynedd yn ôl, ymfudodd Evan Ellis i America, ac ymsefydlodd am yspaid yn ardal West Bangor, Pennsylvania. Oddi yno ymsymudodd i ardaloedd Fair Haven a Goldsmith, Vermont, lle y treuliodd weddill ei oes. Bu yn proffesu am tua 13 mlynedd, a gwasanaethodd fel diacon ffyddlon a defnyddiol am tua 6 mlwydd. Nid oedd ein brawd wedi ei gynysgaeddu â galluoedd a doniau uwchlaw y cyffredin o'i frodyr, eto yr oedd ynddo rinweddau a rhagoriaethau gwerth i bawb eu hefelychu. Nid bob amser y byddai yn hapus yn ei ddull o amlygu ei feddwl; eithr anfynych, os byth, y ceid lle i amheu cywirdeb ei ddyben. Yr oedd ffyddlondeb yn un o brif nodweddion ei gymeriad. Gellid dyweyd am dano fel y dywedwyd am y gŵr hwnw gynt: "A Moses yn wir a fu ffyddlawn yn ei holl dŷ megys gwas." Cafwyd ef yn ffyddlawn i gynghori y profedigaethus, i rybuddio y beius, a cheryddu yr afreolus. Llefarai yn llym yn erbyn pechod, a safai yn wrol o blaid egwyddorion y gwinonedd.
Rhybuddiai yr ieuenctyd rhag syrthio i afael pechodau gwarthus yr oes. Yr oedd yn ddirwestwr egwyddorol, a mynych y cynghorai ei gyd-genedl rhag myned yn ysglyfaeth i'r gwirodydd poethion. Yn ei gyfraniadau at achos y Gwaredwr, yr oedd i fyny â'r goreu, yn ôl ei allu, ac yn aml cyfranai uwchlaw ei allu. Iaith ei ymddygiad yn hyn oedd, "Addunedwch, a thelwch i'r Arglwydd eich Duw, y rhai oll ydynt o'i amgylch ef." Yr oedd haelioni ei galon yn helaethach na thrysor ei bwrs, ac ni theimlai yn esmwyth hyd nes y byddai wedi talu ffyrling eithaf ei addewid.
Weithiau gwelid ef "ar uchelfanau y maes" o ran ei brofiad crefyddol; ond preswyliai gryn lawer o'i amser tua "Basan, a dyfnder y môr." Yn y gyfeillach eglwysig ddiweddaf a gafodd, sylwyd fod ei ysbryd yn fwy iraidd, a'i brofiad a'i deimlad yn fwy nefolaidd nag arfer. "Onid oedd raid i Grist ddyoddef y pethau hyn?" oedd ei brofiad. Y noson hono cymerwyd ef yn glaf, a bu yn gorwedd am ddeg diwrnod. Tywyll a niwliog oedd hi ar ei feddwl am rai dyddiau yn nechreu ei afiechyd diweddaf, ond "bu goleuni yn yr hwyr." Ychydig oriau cyn marw, dywedai wrth frawd oedd yn gwasanaethu arno, "fod yn dda iawn ganddom hen addewidion y Beibl." Symudwyd ymaith ei ofnau trwy obaith cryf ei fod yn trigo yn nirgelwch y Goruchaf, ac yn aros, yn llettya yn nghysgod yr Hollalluog.
Dywedai ei fod yn ymddiried yn yr Arglwydd, ac yn nghadernid ei allu ef; a chredai yn ddiysgog fod digon yn y drefn ar gyfer ei holl angen, yn y cyfyngder mwyaf. Buasai yn dda ganddo gael byw ychydig yn hwy i fagu ei blant, ac i weithio yn ngwinllan ei Dduw; ond ymfoddlonai i ewyllys yr Arglwydd. Anaml y gwelwyd neb ar wely angau mor llawn o ysbryd gweithio ag ydoedd ein brawd hwn, a gellid dyweyd mai dyma y rhan ddiweddaf a fu farw o hono, os bu farw hefyd.
Yr oedd yn hyfrydwch mawr ganddo gael y fraint o wneuthur y pethau lleiaf gydag achos Iesu Grist. Ond y mae wedi myned o ganol gwaith a gwres gweithio, i fwynhau yn helaeth o gynnwys toreithiog y wobr addawedig, "Da was da a ffyddlawn; buost ffyddlawn ar ychydig, mi a'th osodaf ar lawer; dos i mewn i lawenydd dy Arglwydd." Ei waith yn awr ydyw ymwthio "i mewn" i fwynhad o'r llawenydd tragywyddol.
Felly efe a fu farw, ac a gasglwyd at ei dadau. Gadawodd briod dyner, a chwech o amddifaid i alaru eu colled am dano. Ddydd ei angladd gweinyddwyd wrth y tŷ gan y brawd H. D. Foulkes, diweddar o Dodgeville, Wisconsin. Yna ymffurfiwyd yn orymdaith, ac aethpwyd i'r capel, pryd yr anerchwyd y gynulleidfa luosog gan y Parchn. J. Jones, Middle Granville, E. L. Herbert a'r ysgrifenydd. Canwyd darnau priodol i'r amgylchiad gan y cantorion, o'r tŷ i'r capel, ac oddi yno at y bedd. Gweinyddwyd wrth y bedd gan y Parch. John Jones. Y Sabboth canlynol traddododd yr ysgrifenydd bregeth angladdol i'r ymadawedig. oddiwrth Heb 3. 5. Heddwch i'w lwch.
E. W. BROWN.