MR. DAVID M. GRIFFITHS. STEUBEN, NEW YORK.

Ganwyd Mr. D. M. Griffiths yn mhlwyf Bryncroes, swydd Gaernarfon yn y flwyddyn 1794.

Ymunodd mewn priodas â Miss Elinor Lewis, Rhosddu, yn yr un swydd.

Ymfudasant i America gyda theulu o 7 o blant yn y flwyddyn 1828. Arosasant yn New York tua 3 blynedd, yna daethant i fyny i Steuben, lle y treuliasant weddill eu hoes.

Bu iddynt 10 o blant, o ba rai yr oedd 6 yn fyw ac yn bresenol yn cyd alaru yn nghladdedigaeth eu tad.

Bu ei briod farw yn agos i 15 mlynedd o'i flaen ef, sef Mehefin 15fed, 1852, yn y mwynhad helaeth o gysuron yr efengyl - "machludodd haul ei bywyd heb un cwmwl rhyngddi a'i hanwyl Waredwr." Gwel Cen Gorph. 1852, tudalen 226.

Yr oeddynt eu dau wedi eu derbyn yn aelodau o'r eglwys Gynulleidfaol yn Penymynydd gan y brawd R. Everett yn fuan yn ôl y Diwygiad mawr a gwerhfawr a gawsom yn y flwyddyn 1838, ac wedi parhau yn ffyddlon gyda'r achos hyd derfyn eu dyddiau.

Yr oedd ef yn ddiwyd a ffyddlon yn y gyfeillach grefyddol, y cyrddau gweddi a moddion eraill, yr oedd yn dra hoff o'r ysgol Sabbothol - ei bleser oedd dysgu y plant bach yn yr ysgol.

Ni bu ei gystudd o'r hwn y bu farw ond tua 6 niwrnod, er mai gwanaidd a llesg oedd yn fynych. Parhaodd gyda'r ddyledswydd deuluaidd ac yn y mwynhad o gysuron crefydd yn ei gystudd diweddaf. Bu farw Ionawr 30ain, 1867, yn 73 mlwydd oed. Claddwyd ef wrth ochr ei briod yn mynwent Penymynydd, agweinyddwyd gan y Parch. Sem Phillips a Robert Everett.

Y Cenhadwr Americanaidd ~ Mai 1867.