MRS. MARGARET ROBERTS GRIFFITHS, MIDDLE GRANVILLE, WASHINGTON CO, NEW YORK.

Yr 20fed o Ionawr diweddaf bu farw Mrs. Margaret Griffiths, priod Mr. Griffith Griffiths, Jamesville.

Ei chartref cyntefig yn yr hen wlad oedd Pentrefelin, ger Tremadog, Caernarfon, Gogledd Cymru. Enwau ei rhieni oedd Griffith a Margaret Roberts.

Dechreuodd ddangos cariad at Iesu Grist ac ymwasgu â'i bobl pan yn lled ieuanc. Derbyniwyd hi i fwynhad o holl freintiau crefydd cyn bod yn llawn dair arddeg oed gan y Parch. R. Ellis, Rhoslan, yn Eglwys Annibynol Tabor. Gadawodd dŷ ei thad a gwynebodd ar y byd profedigaethus hwn yn ieuanc, fel y mae llawer o fercheg teg Cymru yn gwneud gan fyned i wasanaethu am gyflog. Yr oedd ei symudiadau o'r naill fan i'r llall yn fawrion, a rhyw ddigwyddiadau a chanlyniadau pwysig yn gysylltiedig a hwy. Y symudiad cyntaf oedd yn bwysig iawn iddi sef oddi cartref i Lanberis lle yr ymunodd mewn priodas â Mr. Griffith. Griífiths, Tyddyn Siarles.

Yn mhen ychydig flynyddoedd wedi hyny mudodd gyda'i theulu o Lanberis i Newfoundland. Yr oedd ei sefyllfa yno yn hynod anffafriol ac anfanteisiol iddi gael un math o gysur crefyddol, canys nid oedd yn deall iaith y wlad. Ond ni ddigalonodd ac ni wadodd y ffydd yn yr amgylchiad a'r cyfyngder hwnw - elai yn gyson i'r addoliad, a gwnai bob ymdrech i ddeall gweinidogaeth y Gair, nes o'r diwedd gorchfygodd yr holl anhawsterau fel y gallai fwynhau holl gysuron yr addoliad Seisonig. Ond pan oedd fel yna wedi dyfod i gyfeillach a'r frawdoliaeth hono ac i gydnabyddiaeth a'r gweinidog ac yn gallu ymddiddan a'r naill a'r llall o honynt am bethau crefydd, yr hyn oedd hyfrydwch ei henaid, dyna hi yn symud drachefn oddi yno i ogleddbarth Amcrica, sef ardaloedd y chwareli yn Middle Granville, New York, lle y daethum i yn gydnabyddus â hi, a hyny yn benaf trwy y cysylltiadau crefyddol.

Yr oedd ganddi barch calon at grefydd a chrefyddwyr, yr oedd yn ffyddlon a diwyd bob amser tra y daliodd ei hiechyd. Bu yn nychu ar fin yr Iorddonen am tua dwy flynedd fel un â chwant ymddatod a bod gyda Christ; ond yn ôl ei chyfaddefiad amryw droion yr oedd aros yn y cnawd yn well ganddi er mwyn ei phriod a'i phlant, canys dyna yn unig oedd yn clymu ei meddwl a'i serch at y byd hwn - o ran eî chyflwr personol ei hunan yr oedd yn dawel a chalonog, ie pan yn siarad am awr yr ymddatodiad gwnai hyny â sirioldeb yn chwareu ar ei gruddiau cystuddiol, fel un wedi cael boddlonrwydd y byddai marw yn elw mawr iddi, ac yr oedd yn ddigon eglur i bawb pan oedd y rhan ddaiarol yn gwaelu ac yn dadfeilio y ddydd i ddydd, fod y rhan ysbrydol yn cael ei adnewyddu ac yn myned gryfach gryfach o ddydd i ddydd.

Felly y terfynodd ei gyrfa yma gan adael y tystiolaethau mwyaf boddhaol i'w phriod, i'w phlant ac i'r eglwys yn Jamesville, na bu ei llafur yn ofer yn yr Arglwydd.

Claddwyd hi yn y modd arferol yn nghladdfa Middle Granville. Yr Arglwydd a ofalo am ei phriod gweddw ac am ei phlant amddifaid ac a roddo iddynt un ac oll gyffelyb grefydd yn eu bywyd a chyffelyb farwolaeth ddedwydd yn y diwedd.

Y Cenhadwr Americanaidd ~ Mai 1867.