MR. JOHN HUGHES, REMSEN, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.
JOHN HUGHES came from Aberdaron, Carnarvonshire, in 1818, and settled about a mile and a half south of Remsen village, on a farm adjoining on the north that owned by Horace Powell.His wife was Catherine Owen. Children: Robert J. ; Hugh J.; Eleanor, who married Lewis Jones; John; Jane, who married William Williams; and David. Hugh J. married Elizabeth, daughter of Robert M. Jones, and their children were John; Jane, who married Matthew Jones; Cornelius; Lewis; Lydia, who married Evan Thomas; Robert — who spells his name "Hewes" — a physician of Rockwell City, Iowa, who married Martha, daughter of William Lewis, of Steuben.
A narrative history of Remsen, New York.
MR. JOHN G. HUGHES, REMSEN, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.
Ionawr 26ain, 1867, yn ardal Penygraig, Remsen, New York, ar ôl hir gystudd, Mr. John G. Hughes, yn 82 mlwydd a 3 mis oed. Adnabyddid ef gan lawer wrth yr enw John Hughes, Penybont.Daeth i'r wlad hon tua 35 mlynedd yn ôl, o blwyf Bryn Croes, Lleyn. Daeth i broffesu crefydd yn amser y diwygiad a gafwyd yn Steuben a'r cylchoedd tua 29 mlynedd yn ôl, a pharhaodd yn ffyddlawn hyd angau. Aelod oedd gyda'r T.C. yn Mhenygraig.
Un dirodres iawn oedd ef; byddai yn ufudd bob amser y gelwid arno i gymeryd rhan yn y gwaith yn yr eglwys. Nid rhyw weddi hir a glywid un amser ganddo, ond bob amser yn gryno a difrifol iawn. Dywedai yn y cyfarfod eglwysig olaf y bu ynddo, ei fod yn gwir garu Iesu Grist. Dywedai wrth ei briod ychydig amser cyn marw, ei fod yn credu na chollid mo hono, na wnai Duw ddim ei wrthod. Hunodd yn dawel,fel yr ydym yn credu, yn yr Iesu.
Gadawodd briod oedranus a 5 o blant, oll mewn sefyllfaoedd cysurus, ac yn proffesu crefydd bob un. Cyflawnwyd y gwasanaeth crefyddol yn nghladdedigaeth yr hen ŵr gan y Brodyr M. Roberts ac E.Salisbury.