MRS. ANN JONES. STEUBEN, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.

Awst 19eg, 1867, yn Steuben, New York, Ann, anwyl briod Mr. Richard Jones. Man genedigol Mrs. Jones ydoedd y Ffridd, Clynnog, Arfon, Gogledd Cymru, ac yno y bu holl ddyddiau ei morwyndod. Yn y flwyddyn 1833 ymunodd mewn priodas gyda Mr. R. Jones. Daethant i America yn y flwyddyn 1816.

Treuliodd y rhan fwyaf o weddill ei hoes yn Sir Oneida. Bu iddynt dri o blant, y rhai sydd eto yn fyw, wedi eu gadael i gyd-alaru a'u tad o'u colled am fam dyner iawn. Yr oedd y wraig' hon yn un o rai rhagorol y ddaear o ran ei chrefydd. Dygwyd hi fyny o'i mebyd gyda chrefydd yn eglwys y T. C., yn Bryneyrau, Clynnog, Arfon. Derbyniwyd hi yn gyflawn aelod pan yn 10 mlwydd oed; ac yn ôl pob arwyddion bywyd, yr ydoedd ein chwaer hon yn aelod sylweddol o'r eglwys ddirgeledig. Bu yma yn y filwriaethus yn ffyddlon a manwl am 64 o flynyddoedd, a phawb yn edrych arni fel gwraig dduwiol, hynaws a charedig, amyneddgar a thawel: ac ar y dyddnodiad uchod cafodd fynediad tawel i'r orfoleddus trwy gerbyd sydd gan angau, a'i enw parlys, un o gerbydau esmwythaf angau.

Yr ydoedd fel pe buasai yn caru y ride ac wrth fyned, dywedai yn dawel, "Ymddiriedaf yn yr Arglwydd, ac yn nghadernid ei allu ef." Byddaf' yn meddwl mai first class train i'r saint yw y parlys. Y car yma gafodd Dr. Rowlancls ac erailì o'r wlad hon; Davies o Gaio; W. Roberts, Amlwch; J. Williams, Llecheiddior; a'r anwyl D. Jones, Treborth, yn nghyd a llu eraill; a chafodd Ann Jones yr un cerbyd esmwyth, a'r Iesu yn y cerbyd gyda hi.

Claddwyd ei gweddillion yn barchus yn mynwent capel y Nant, lle mae y geiriau a arferai adrodd bob nos cyn cysgu wedi eu cerfio ar y marmor wrth ben ei bedd, y rhai a sylweddolir yn yr adgyfodiad. Gan mai cofnodiad byr sydd dderbyniol, rhaid terfynu, heb fanylu ar rinweddau ei bywyd.
THOMAS WILLIAMS.

Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Hydref 1868