MRS. CATHARINE P. JONES. STEUBEN, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.

CATHARINE P. JONES, Yr hon a fu farw yn 67 mlqwydd a 5 mis oed, Gorphenaf 24, 1867.

Yr oedd ein chwaer hon yn enedigol o blwyf Llanengan, Swydd Gaernarfon, Gogledd Cymru. Bu am ryw gymaint o amser yn aros yn New York ar ôl dyfod i'r wlad hon, ac yno yr ymbriododd â Mr. John P. Jones o Benymynydd, Steuben, Swydd Oneida.

Bu iddynt bump o blant, sef dau o feibion a thair o ferched, ond pan oeddynt eto yn mlodau eu dyddiau, daeth angau a chymerodd y pen teulu i dragywyddoldeb, a gadawyd Mrs. Jones yn wraig weddw a phedwar o blant amddifaid, a ganwyd y pumed, sef y ferch ieuengaf, yn mhen dau fis ar ôl claddu ei thad, a chafodd Mrs. Jones weithio ei ffordd drwy yr anial am chwech mlynedd ar hugain yn rhagor, ac felly cafodd y fraint o godi ei phlant i fyny oll i'w cyflawn faintioli, a'u dysgu i ofni Duw a chilio oddiwrth ddrygioni, ac heblaw hyny cafodd weled y rhan amlaf o honynt yn gwneuthur arddeliad o'r Arglwydd Iesu, ac yr ydym yn hyderus y gwrendy yr Arglwydd ei thaer weddiau ac y gwelir y gweddill o'i phlant yn ceisio Duw eu tadau.

Cafodd Mrs. Jones y fraint fawr o gael ei dwyn i fyny gan rieni crefyddol a duwiol, a'i magu megys o dan ddyferion y cysegr; ond nid ufuddhaodd yn gyflawn i'r efengyl hyd amser y diwygiad mawr a fu yn yr ardaloedd yma yn y fìwyddyn 1838, pan y cafodd hi a'i phriod eu derbyn yn gyflawn aelodau o eglwys Penymynydd; ond bu am y ddwy flynedd olaf yn byw yn Utica yn aelod o'r eglwys sydd yn bresenol o dan fy ngofal; ac oblegyd hyny cefais y fraint o gyfeillachu ac ymddyddan llawer â hi yn ei llesgedd a'i chystudd diweddaf.

Yr oedd Mrs. Jones yn un ag oedd gwedi cyrhaedd gwybodaeth helaeth, yn un o dymer naturiol ragorol; ni chlywais hi erioed yn dweyd gair grwgnachlyd na surllyd. Ac yr oedd gras hefyd gwedi addurno ei hysbryd; nid yn unig byddai bob amser yn siriol, ond byddai yn hawdd ganddi o bob man i arwain y gyfeillach at bethau profiadol, a byddai yn hawdd i bawb wybod mai cartrefle ei myfyrdod oedd gyda phethau crefyddol.

Yn niwedd y daith bu am amryw wythnosau yn gwersyllu fel Israel ar lan yr Iorddonen cyn myned drwodd i Ganaan, a chan ddiffyg anadl, curiad y galon, yn nghyd a chystuddiau eraill, cafodd ei hanalluogi i gael cymaint o gyfeillach a'i chyfeillion ar lan yr afon ag a ddymunasai rhai o'i chyd-bererinion gael, ond dywedai yn aml nad oedd hi ddim yn ofni niwaid yn y glyn, a hiraethai yn fawr am fod gyda Christ, ac ar y 24ain o Orphenaf gadawodd y tŷ o glai ac ehedodd yr enaid at Dduw yr hwn a'i rhoes ef.

Dydd ei chladdedigaeth daeth nifer fawr yn nghyd, a dygwyd yn mlaen gan yr ysgrifenydd wasanaeth crefyddol cyn cychwyn y corff, ac awd ya orymdaith drefnus i gyfarfod yr Ager-gerbyd yr hwn oedd i'w chymeryd i'r Steuben Station, lle yr oedd nifer luosog o'i pherthynasau a'i hen gymydogion mewn cerbydau a chanddynt elorgerbyd i'w dwyn i ben ei thaith i gladdfa Penymynydd.

Yn yr addoldy pregethodd y Parch. M. Roberts yn Gymraeg ar y "Mynediad helaeth i mewn i deyrnas ein Harglwydd a'n Hachubwr Iesu Grist," a'r Dr. Everett yn Saesoneg am "Mair yn dewis y rhan dda ac yn eistedd wrth draed yr Iesu." Yna rhowd y gweddillion i orphwys yn ymyl gweddillion ei phriod a'i pherthynasau, lle hefyd y gorphwys oddiwrth eu llafur amryw o bererinion Seion fu byw gynt yn ardal Penymynydd, enw a choffadwriaeth pa rai sydd yn anwyl iawn gan lawer heblaw yr ysgrifenydd.
JAMES GRIFFITHS.

Y Cenhadwr Americanaidd ~ Medi 1867