MRS. ELIZABETH JONES. STEUBEN, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.
Gorphenaf 22ain, 1867, Elizabeth, anwyl wraig Evan E. Jones, o Steuben, Swydd Oneida, yn 74 mlwydd oed.Merch ydoedd i Margaret a William Williams o'r Bermo, Swydd Feirionydd, a diweddarach o Philadelphia.
Bu y chwaer hon yn aelod ffyddlawn gyda'r Wesleyaid am lawer o flynyddoedd. Cychwynodd ei gyrfa ysbrydol yn moreu ei hoes. Bu yn ffyddlon nes diweddu ei dydd, a noswyliodd mewn tangnefedd. Mynych y dywedai ychydig cyn ei marwolaeth, "O mor araf y mae olwynion cerbydau fy Arglwydd yn dod."
Yr oedd yn meddu ar lawer o rinweddau efengylaidd; gwybodaeth helaeth a phrofiadol o'r Ysgrythyr Sanctaidd, ymarweddiad diwair, ysbryd "addfwyn a llonydd."
Yr oedd afiechyd wedi ei hymddifadu i raddau mawr o freintiau tŷ yr Arglwydd er's rhai blynyddau; eto, yn ei dyddiau olaf, pan oedd presenoldeb ei phriod yn fwyaf angenrheidiol, ni fynai er dim iddo absenoli ei hun o dy yr Arglwydd ar y Sabboth. Dywedai fod yr hen Feibl yn a digon o gyfaill ganddi hi, "ac wrth droi ei ddalenau, yr hen Feibl teuluaidd, mae yn hawdd canfod llwybrau'r hen bererin, lle y bu yn cloddio yn ddyfal amyr "aur coethedig;" yn gyfoethog hwn, aeth dros yr Iorddonen yn orfoleddus.
Claddwyd ei rhan farwol yn mynwent Capel Sixty, Steuben. Pregethwyd ar yr achlysur oddiwrth 1 Cor. 15, 26, gan yr ysgrifenydd.
JOHN W. JONES.