MRS. MARGARET JONES. MARCY, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.

Mehefin 22ain, yn Marcy, New York, Margaret, annwyl briod Mr. John Jones, yn 37 mlwydd, 2 fis a 19 diwrnod oed.

Merch ydoedd i David Hughes a'i briod, Ymfudodd o Leyn, Sir Gaernarfon, Cymru, yn y flwyddyn 1828. Priododd Hydref 1853.

Ymunodd â byddin Iesu Grist yn Rehoboth, eglwys o Gyfundeb y T. C., yn y flwyddyn 1862, a pharhaodd yn ffyddlawn hyd angau. Cafodd gystudd byr, ond tra phoenus, eto credwn ei fod yn odidog ragorol, yn gweithredu tragywyddol bwys gogoniant iddi hi. Ei haul â fachludodd tra yr oedd hi yn ddydd. Ganwyd plentyn iddi, eithr parhaodd i wanychu am oddeutu pymthefnos, pryd y terfynodd ei gyrfa ddaiarol. Nid oedd yn proffesu sicrwydd gobaith, eto meddai obaith cryf pan yn nesau tua glyn marwolaeth. Dywedai wrth ei phriod ei bod wedi ofni lawer gwaith nad oedd ganddi grefydd a fuasai yn dal, ond ei bod yn meddwl fod ganddi ryw beth ag oedd yn talu iddi bwyso arno.

Bu farw gan bwyso yn hyfryd ar addewidion Duw yn Nghrist. Pan ar lan yr Iorddonen, dywedai, "Ac ni a wyddom fod pob peth yn cyd-weithio er daioni i'r rhai sydd yn caru Duw." Cynghorai ei pherthynasau i ymofyn am wir grefydd; yna croesodd yr afon yn hyderus am ddiangfa gyda'i Barnwr, gan adael priod a thri o blant bychain, ac amryw berthynasau mewn galar dwys ar ei hol.

Rhoddwyd ei gweddillion marwol i orphwys gyda'r rhai yr hoffai eu cymdeithas mewn bywyd, sef ei dau blentyn, yn mynwent Salem, Deerfield, ar y 25ain, pryd yr ymgynullodd torf luosog yn nghyd i ddangos eu parch, ac i weinyddu eu cymwynas olaf iddi. Gweinyddwyd ar yr achlysur gan y Parchn. R. F. Jones a W. D. Williams.
W. O. ROBERTS.

Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Rhagfyr 1867