MRS. MARGARET H. JONES. VANWERT COUNTY, OHIO.
MRS. MARGARET H. JONES. Mai 31ain, 1867, yn Sefydliad Cymreig Vanwert County, Ohio, yn 51 mlwydd a 9 mis oed, Margaret H. Jones.Merch ydoedd i William Morris, Llanegryn, Sir Feirionydd. Wedi iddi dreulio amser ei hieuenctyd yn Llanegryn a'r amgylchoedd, ymbriododd yn y lle hwnw gydag Edward H. Jones, Penal, yn yr un Sir. Ryw yspaid o amser wedi priodi ymfudasant i'r wlad hon, ac ymsefydlasant am dymhor yn Nhalaeth New York. Saith mlynedd yn ôl symudasant i'r gymydogaeth hon, a mawr y llawenydd oedd ganddi gael moddion crefyddol yn Gymraeg. Ei chlefyd diweddaf oedd math o Ddarfodedigaeth. Ymroddodd i fywyd crefyddol yn lled ienanc yn Nghymru, gyda'r Bedyddwyr. Yr oedd yn wraig rinweddol, yn adnabod ei lle yn y teulu, yr eglwys, a'r gymydogaeth, fel gwraig yn ofni yr Arglwydd.
Ni bu gair croes erioed rhyngddi a'i gŵr, yn ôl ei dystiolaeth ef ei hun, er iddynt fod yn briod dros 20 mlynedd. Gwnaeth un weithred dda gydag achos Crist, y byddai yn gam â'i choffadwriaeth ei chuddio. Pan ddaeth gyntaf i'r ardal hon, yr oedd yn clywed llais y pregethwr yn crygu wrth bregethu ar dywydd oer, a meddyliodd mai yr achos o hyny oedd fod ei draed yn oeri, ac i'r dyben o gynorthwyo llais y pregethwr i fynegi ffordd iachawdwriaeth, rhoddodd garpet ar lawr yr areithfa. Hyderwyf iddi gael newid ei gwaith a'i llafur am y wobr a'r orphwysia.
Aeth rhai o'i phlant i fyd yr ysbrydoedd o'i blaen; gadawodd un gyda'i phriod i alaru ar ei hol.
Dranoeth claddwyd ei gweddillion marwol yn anrhydeddus yn mynwent y gymydogaeth.
HUGH PUGH.