MRS. JANE WILLIAMS, MARCY, EFROG NEWYDD.
Hydref 28ain, yn Marcy C. N., yn 42 mlwydd oed, ar ol dwy flynedd o gystudd yn y Darfudedigaeth, Jana Williams, gwraig Richard Williams, gynt o Ben-y sarn, swydd Gaernarfon.Ymfudodd oddi yno i'r America yr hâf diweddaf. Yr oedd yn aelod reolaidd gyda'r Trefnyddion Calfinaidd ers dwy flynedd a hanner, a daeth yma â llythyr rheolaidd ganddi ond oherwydd ei gwaeledd a'i hanfantais ni allodd ei roddi mewn un Eglwys.
Gadawodd briod a saith o blant yn amddifad, i alaru ar ei hol.
Claddwyd ei rhan farwol yn nghladdfa Salem hyd floedd yr udgorn drweddaf. Pregethodd Mr. Rowland Griffîths, Marcy, ar yr achlysur.