MR. MARY JONES. ST. LOUIS, MISSOURI.

Medi 18fed, yn St. Louis, Missouri, Mrs. Mary Jones, o'r Geri, yn 74 mlwydd oed.

Ymfudasai i America o Lanrwst, Gogledd Cymru, yn Mehefln, 1863, gyda'i hunig ferch, Miss Mary Jones.

Enw ei phriod, yr hwn a fuasai farw yn Nghymru, ydoedd Lewis Jones, Builder wrth ei gelfyddyd. Yr oedd yn dra adnabyddus yn nghylchoedd Llanrwst, a manau eraill.

Amcan yr ymadawedig yn dyfod drosodd i'r wlad hon ydoedd i fyw gweddill ei hoes yn St. Louis, o dan nawdd a gofal ei mab, Robert L. Jones, Ysw., yr hwn a breswyliai yn y ddinas hon er ys llawer o flynyddau. Pel mab awyddus i wneyd ei ddyledswydd at ei rieni, tybiodd y gallasai gyflawni hyny yn fwy effeithiol trwy gael ei anwyl fam a'i unig chwaer i drigo yn ei ymyl.

Gan fod Rhagluniaeth y nef wedi ei lwyddo ef mor fawr, teimlai awydd cryf i gyfranu o'i eiddo tuag at ddiogelu cysuron ei anwyl fam yn ei hen ddyddiau. Yn hyn, meiddiwn ddyweyd, ei fod yn esiampl deilwng o'i dilyn gan bawb y mae iddynt rieni oedranus yn enwedig. Gweithredai yn ddarbodol dros ei dad yn gystal a'i fam yn mlynyddoedd olaf ei fywyd yn Nghymru. Bu Mrs. Jones farw yh nhŷ ei mab uchod, heb ond ychydig oriau o gystudd. Yr ydoedd yn henaf o holl Gymry St. Louis, â pherchid hi yn fawr ganddynt oll. Yr oedd y newydd am ei marwolaeth yn ergyd trwm i'r ychydig o'i chydgenedl sydd ar wasgar yn y ddinas hon. Yr ydoedd yn hynod am ei sirioldeb -ei gonestrwydd - ei geirwiredd, yn gystal ag am ei hymdrech i fynychu moddion gras. Mae yn debyg nad oedd neb yn siarad ac yn coleddu meddyliau mwy am yr achos Cymreig, a'r weinidogaeth Gymreig yn y ddinas hon na'r hen fam Mrs. Jones.

Y mae hiraeth ar ein calon am ei chlywed yn datgan mor felus ganddi oedd y moddion crefyddol yn ei hen iaith.

Gweinyddwyd y gymwynas olaf i'w gweddillion gan dyrfa fawr o'i chydgenedl ac eraill. Efallai mai hwn ydoedd yr angladd y gwelwyd mwyaf o Gymry ynddo erioed yn St. Louis. Aethpwyd o dŷ ei mab yn dyrfa fawr, gan gludo ei chorff i Gladdfa Bellfontain, lle ei dodwyd i orwedd yn dawel yn meddrodaith ei mab uchod. Cyflawnwyd y gwasanaeth crefyddol, yn y tŷ ac wrth y bedd, yn Saesonaeg ac yn Gymraeg, gan y Parch. M. A. Ellis, a phregethwyd ei phregeth angladdol gan yr un y Sabboth canlynol.

Erioed ni ddangoswyd mwy o barch i goffadwriaeth neb na'r tro hwn - ac erioed ni chladdwyd mam yn fwy anrhydeddus, anwyl, ac yn nghanol teimladau dwysach nag y daiarwyd yr hen fam Mrs. Jones gan ei mab uchod, yr hwn nid ystyriai ddim yn ormod i'w wneyd iddi tra yu fyw, nac i'w gweddillion marwol. Y Nefoedd a dalo iddo yn y dyfodol eto, ac a'i bendithio â bendithion y cyfamod tragywyddol.

Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Rhagfyr 1867