WILLIAM JONES, PENYGRAIG, REMSEN, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.

Tachwedd. 28ain, yn West Bangor, Pennsylvania, William, mab i John ac Elinor Jones, gynt o'r Coed Mawr, yn agos i Gaemarfon. G. C, yn 19 mlwydd a 6 mis oed.

Yr oedd yn fachgen diwyd a thawel yn ei waith, dystaw a chall yn mhob cyfeillach, yr hyn a'i gwnai yn hoff gan bawb a'i hadwaenai. Dechreuodd ei afiechyd mewn anwyd trwm, yr hyn a drodd yn ddarfodedigaeth. Ac er ei fod yn un o'r dynion ieuainc cryfaf, a hoewaf o'i oed, medrodd y darfodedigaeth, yn araf a thawel, wywo ei aelodau bywiog, llygru ei wyneb-pryd glandeg, a diffodd y wreichionen olaf o'r danllwyth bywyd oedd yn ei fynwes.

"Yr ydwyt yn ei orchfygu ef yn dragywydd, fel yr elo ymaith : a chan newidio ei wyneb ef, yr wyt yn ei ddanfon ef i ffordd."

Y CYFAILL O'R HEN WLAD ~ IONAWR 1868.