MR. WILLIAM MORRIS, STEUBEN, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.

Ebrill 8fed, yn Steuben, yn nhŷ ei unig fab Morris Morris, Ysw., ar ôl cystudd trwm a maith, Mr. William Morris, yn 78 mlwydd oed - un o hen sefydlwyr plwyf Steuben.

Ymfudodd i'r wlad hon yn y flwyddyn 1818 o Benyrhos, plwyf y Berch, yn agos i Bwllheli, ac yn yr ardal hon y treuliodd weddill ei ddyddiau - tua thair blynedd yn ôl y bu farw ei briod â'r hon yr ymunasai mewn priodas y diwrnod cyn iddynt gychwyn i America o'r hen wlad.

Claddwyd ef wrth ochr ei briod yn nghladdfa y teulu yn agos i'w hen anedd, a gweinyddwyd gau y brodyr Rice ac Everett.

Y Cenhadwr Americanaidd ~ Mai 1867.