MR. HUGH OWEN. CINCINNATI, OHIO.

Chwefror 3ydd, 1867, yn Cincinnati, Ohio, yn y St. Luke Hospital, ar ôl rhai misoedd o gystudd, o'r Darfodedigaeth, yn 26 mlwydd oed, Mr. Hugh Owen.

Yr oedd yn enedigol o Porthmadog, Caernarfon. Bu yn cartrefu yn Pwllheli. 0 Talsarn yr ymfadodd i'r wlad hon diwedd yr haf diweddaf, oddiwrth Mr. Owen Jones, sydd yn cadw store, lle y bu y Parch. John Jones. Y mae ei fam yn byw yn awr yn Porthmadog - Mrs. Jane Evans, 33 High St. Daeth i'r ddinas hon y 25ain o Hydref. Dilynodd ei alwedigaeth am bedair wythnos. Cymerodd eglwys y T. C. ei ofal tra yn ei gystudd. Cafodd ymgeledd dyner a da, a chladdedigaeth anrhydeddus, er nad oedd neb perthynasau iddo yn ôl y cnawd yn agos ato. Cymerwyd y corff i gapel y T. C., a phregethodd y Parch. H. Powell oddiwrth Psalm xxvii. 10, a chyflawnodd y wasanaeth ar lan y bedd.

Yr oedd yn aelod crefyddol, yn cael dyddanwch mawr o'i Feibl, a hyderai ei fod yn feddiannol ar y rhan dda.

Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Mawrth 1867.