MR. HUMPHREY OWEN. TRENTON, NEW YORK.

HUMPHREY OWEN a fu farw yn ei anedd yn mhlwyf Trenton, New York, yn lled annysgwyliadwy, ar ôl byr gystudd, Mawrth 17eg, 1867, yn 74 mlwydd oed.

Ganwyd ef yn Lleyn, swydd Gaernarfon, yn y flwyddyn 1793.

Daeth drosodd i America yn y flwyddyn 1800 yn nheulu ei dad a'i fam pan yn blentyn tua 7 mlwydd oed. Bu y teulu byw lawer o flynyddoedd yn Philadelphia, yna mudasant i'r ardal hon, a galwyd eu hanedd yma dan yr enw "Philadelphia" hyd y dydd hwn. Yr oedd yn aelod o'r eglwys Gynulleidfaol yn Steuben, wedi ei dderbyn gan y Parch. William D. Williams - y cyntaf a dderbyniwyd gan Mr. Williams yn Steuben - a pharhaodd yn aelod cymeradwy hyd derfyn ei ddyddiau. Byddai yn gyson tra y gallodd yn yr ysgol Sabbothol.

Bu yn dra ffyddlon i gynorthwyo ei anwyl fam i ddyfod i'r moddion tra bu hi byw.

Teimla ei frodyr yn yr eglwys yn fawr eu colled ar ei ôl.

Claddwyd ef yn mynwent y Capel Ucha', a gweinyddwyd gan y brodyr Phillips ac Everett.

Y Cenhadwr Americanaidd ~ Mai 1867.