MR. WILLIAM PARRY. CAMBRIA, WISCONSIN.
Mawrth 1af,1867, yn Cambria, Wisconsin, Mr. William Parry, yn 60 mlwydd oed.Lle preswylfod Mr. Parry yn Nghymru oedd Bangor, Sir Gaernarfon. Bu fyw flynyddoedd wedi dyfod drosodd yma yn ardal Proscairon; ond yn ei flynyddoedd diweddaf preswyliai yn Cambria. Yr oedd yn adnabyddus iawn trwy y cymydogaethau - yn ddyn dystaw, gonest, a diddichell. Yr oedd yn grefyddwr, a gadawodd dystiolaeth yn meddwl y rhai a'i hadwaenai oreu ei fod yn ddyn duwiol. Yr oedd yn ddirwestwr selog, yr hyn nis gellid ei ddweyd am lawer o'i alwedigaeth ef, sef cigydd.
Goddiweddodd y diwedd ef yn dra sydyn. Gwir nad oedd yn iach er ys misoedd. Ychydig cyn ei farwolaeth aeth i Portage, lle mae ei fab yn preswylio, gan obeithio y buasai ymweliad felly yn help i'w iechyd; ac ar ôl bod yno am bymthefnos yn dra chysurus, ac yn derbyn pob gofal ac ymgeledd oddiar law ei fab, Mr. W. T. Parry, yr hwn sydd yno yn fasnachwr llwyddiannus, ac yn bregethwr cymeradwy, wedi bod yno am ryw yspaid felly, dewisodd yr hen ŵr ddychwelyd adref, ac anfonodd y mab un o'r gwŷr ienainc o'r ystôr i'w hebrwng. Cyrhaeddasant Cambria yn gysurus; ond pan ar yr heol rhwng y Depot ai breswylfod ef, ymollyngodd y babell bridd yn ddirybudd, ac ehedodd yr enaid o'r adfail i'r tŷ nid o waith llaw.
Ofnid, yn ôl natur ei glefyd, sef dolur y galon, mai sydyn fyddai ei ymadawiad; ond yn yr awr ni thybiai neb y daeth yr alwad. Gadawodd weddw a dau o blant ar ei ôl; ac er eu bod yn gysurus o ran amgylchiadau, eto teimlant yn unig iawn heb ei gwmni ef, a'i le yn hynod wag.
Rhoddwyd ei weddillion marwol i orwedd yn mynwent Cambria, gyda'r gwasanaeth crefyddol arferol, fel yr oedd yn weddus ì'r amgylchiad.
R. EVANS.