MRS. ANN ROWLANDS. PIKE GROVE, RACINE, WISCONSIN.
Ganwyd gwrthddrych ein cofiant yn Garth-ddorwen, plwyf Llandwrog, Sir Gaernarfon, Gogledd Cymru, Mehefin 29ain, 1831.Pan o 10 i 12 mlwydd oed daeth drosodd i'r wlad hon gyda'i rhieni, ac ymsefydlasant ger Racine ar y tyddyn y mae ei rhieni yn byw arno hyd yn awr, pa rai sydd erbyn hyn wedi cyrhaedd gwth o oedran.
Rhagfyr 13eg, 1849, ymunodd mewn priodas â Mr. Richard R. Rowlands, yr hwn er's blynyddoedd bellach sydd yn ddiacon ffyddlon, diwyd, ac ymdrechgar yn eglwys Annibynol Pike Grove. Bu yn briod am 18 mlynedd ac yn fam chwech o blant, tair lodes a thri bachgen; oll o ba rai sydd wedi eu gadael yn amddifaid o fam dyner, gofalus a charedig, yn anialwch blinderus a gofidus y fuchedd hon.
Oddeutu l5 mlynedd yn ôl ymunodd ac achos crefydd gan "roddi ei hunan yn gyntaf i'r Arglwydd, yna i'w bobl yn ôl ei ewylìys ef." Derbyniwyd hi yn aelod gan y diweddar Barch. John Parry. Credwn y bydd yn berl disglaer yn "nghoron gorfoledd" y gweinidog enwog a llafurus hwn " yn nydd Crist."
Cyn pen ychydig o amser wedi ymuno a phobl yr Arglwydd dechreuodd nychdod a gwaeledd ymaflyd yn y cyfansoddiad, yr hwn ni chafodd waredigaeth llwyr oddiwrtho tra y bu ar y ddaear. "Ond er llygru ei dyn oddi-allan, eto y dyn oddifewn a adnewyddid o ddydd i ddydd. Byddai ar rai prydiau yn hynod wan a nychlyd, ar adegau eraill dipyn yn gryfach. Tua dechreu mis Mai, 1866, ymaflodd y darfodedigaeth yn ei chyfansoddiad.
Yr ail Sabboth yn mis Rhagfyr, 1866, y bu am y tro olaf yn yr addoldy, yn gwrandaw ar y Parch. Samuel Roberts, Tennessee, yn pregethu oddiar Hebreaid 11: 13, "Mewn ffydd. y bu feirw y rhai hyn oll a.y." Yr oedd y testyn a'r bregeth yn hynod o gyfaddas iddi, gan nad ocdd yn bell iawn o fyned trwy fwlch cyfyng marwolaeth ei hunan. Ar ôl hyn gwelid yn eglur ei bod yn rhosydd Moab ac yn agoeau bob dydd at afon donog marwolaeth, a bu farw Mai 17eg, 1867, yn agos i 36 mlwydd oed. Gweinyddwyd ar achlysur y gladdedigaeth gan y Parch. W. Hughes, Racine, a'r ysgrifenydd.
Da genym allu dwyn tystiolaeth mor ffafriol i gymeriad personol a chrefyddol ein chwaer ymadawedig. Gallwn yn ddibetrus ddyweyd fod "iddi air da gan bawb; a chan y gwirionedd ei hun." Yr oedd yn " cadw ei lle" yn mhob cylch y byddai ynddo. Perchid hi fel mam yn y cylch teuluaidd; fel cymydoges gan ei chyfeillion a'i chydnabod, yr oedd y caredigrwydd a ddangoswyd ganddynt iddi yn ei horiau olaf yn brawf eglur o hyn. Prif addurn Mrs. Rowlands oedd, ei bod yn "gallu rhodio yn addas i'r alwedigaeth nefol." Dangosodd yn eglur yn ei bywyd addas a'i buchedd diargyhoedd mai un "yn ceisio gwlad well a hono yn un nefol ydoedd," a bod ei "hymarweddiad yn y nefoedd." Yr oedd y nefoedd yn ei henaid cyn bod ei henaid yn y nefoedd. Ond er y cyfan daeth angau heibio gan ei hysgaru am byth a'r byd hwn a'i huno am byth a'r byd gogoneddus arall. Yr Arglwydd fyddo yn rhan ac yn etifeddiaeth i'w theulu galarus, y gweddill o'r daith, ac am byth.
HENRY DAVIES.