MR. DAVID T. ROWLANDS. CARMEL, CAMBRIA, WISCONSIN.

Ychydig grybwyllion am David T. Eowlands, o gymydogaeth Carmel, gerllaw Cambria, Wisconsin, yr hwn a fu farw Awst 8fed, 1867.

Geni a marw yw yr enwau sydd genym ar ddau ben bywyd dyn ar y ddaiar. Nid oes dim gwahaniaeth gwerth eu nodi rhwng y naill ddyn a'r llall yn y ddau ben i'w bywyd; yn hyd, a dygwyddiadau y cyfnod rhyngddynt y gwahaniaethir plant dynion. Yr oedd amryw o ddygwyddiadau bywyd D. T. E. yn debyg iawn i'r eiddo y cyffredin, oddieithr mewn amser a lle.

Mae i bob dyn le genedigaeth. Nant-y-graen, Llanllechid, Sir Gaernarfon, oedd yr eiddo ef. Mae cael rhieni crefyddol - dygiad i fyny yn eglwys Dduw - gadael crefydd am dymhor wedi tyfu i fyny yn ŵr ieuanc, yn hanes llawer, ac yn ei hanes yntau. Mae pethau eraill yn ei hanes tebyg iawn i bobl eraill a welsom. Wedi cyrhaedd oedran cyfaddas, priododd wraig, ac mae hono yn awr yn weddw alarus. Ennillodd blant; mae saith o honynt heddyw yn amddifaid hiraethlon.

Ymfudodd i America ugain mlynedd yn ôl, Ymadawodd oddi yma wedyn i fyd arall. Pwrcasodd ffarm iddo ei hun, ond nid edwyn ei le mo hono ef mwy.

Ond, perthyna i'w hanes bethau gwahanol i'r lluaws, yn gystal â rhai cyffelyb. Pan yn ŵr ieuanc, aeth i wrando pregeth yn eithaf calonog a gwrol; ond cyn ei diwedd yr oedd ei wrolder wedi ei adael. Dianc am ei einioes oedd ei deimlad - ffoi, ffoi oedd ei ddymuniad, ac yr oedd yn werth ei fywyd fod y mynydd yn nes na'r gawod. Dyna ddechreuad ei grefydd; ac er newid ei sefyllfa, a newid ei wlad, glynodd yn ei broffes. Heb amcanu dilyn manylion ei oes grefyddol, gadawn i'r darllenydd ffurfio barn, a thynu addysg iddo ei hun hefyd oddiwrth y dystiolaeth a roddodd ar lan afon angau, yr hon dystiolaeth sydd fel yr eiddo Job, yn werth i'w hysgrifenu yn y graig â phin o haiarn, a rhoi plwm yn y llythyrenau i'w cadw yn ddarllenadwy dros byth. Pan ofynodd brawd iddo, beth oedd ganddo i wynebu angau? "Yr un peth," meddai, "ag oedd genyf o'r blaen, 'Iesu Grist, a hwnw wedi ei groeshoelio;' ac ychwanegai, "Ni frysia yr hwn a gredo." Yna bu farw.

Ymddengys felly iddo ddewis wrth fyw yr hyn a deimlai yn ddigon wrth farw. Ddarllenydd, Dos a gwna dithau yr un modd. Gweinyddwyd y gwasanaeth crefyddol arferol yma ar adeg y claddedigaeth, gan y Parch. Rees Evans. Ac er ei bod yn nghanol prysurdeb cynhauaf, medrodd y lluaws hebgor amser i hebrwng ei weddillion marwol i'r bedd. Traddodwyd pregeth angladdol iddo un o'r Sabbothau dilynol gan y Parch. Wm. J. Jones.

Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Ionawr 1868.