MR. OWEN W. ROWLANDS. CAMBRIA, COLUMBIA COUNTY, WISCONSIN.
Prin yr ydym yn golygu fod un o bob deg o'r personau a fawrygir mewn cofiantau yn teilyngu hyny. Ac nis gallwn olygu teilyngdod personol yn unig yn ddigonol i gyfreithloni ysgrifenu cofiant i neb. Ein hamcan wrth goffau marwolaethau personau ymadawedig ddylai fod teyrnged i'r marw, ond addysg i'r byw sydd ar ôl. Os na fydd rhyw beth yn nghymeriad dyn gwerth i'w efelychu, gallasem feddwl mai gwell fuasai gadael y cyfryw ar ddim ond byr grybwylliad o'u marwolaeth. O'r ochr arall, pan y bydd rhyw hynodion mewn dyn gwerth eu hysgrifenu yn y graig dros byth â haiarn ac â phlwm, meddyliem ei fod yn gam â'r byd eu gadael heb eu croniclo.O'm rhan fy hun, nid wyf yn gwybod am ddim erioed wedi gadael argraffiadau mor annileadwy ar fy meddwl a darllen hanes bywydau cymeriadau gwir rinweddol. Mae fod dyn yn cael ei adael i fyw ar y ddaiar am o 30 i 60 o flynyddoedd yn rhoddi amser digonol i'r byd i ffurfìo barn am ei gymeriad. Y dyn ei hun sydd yn ffurfio ei gymeriad, ond mwyafrif cymdeithas o rai gonest, a galluog i farnu sydd i gydnabod y cymeriad hwnw yn gyhoeddus. A dyna braidd yn ddieithriad yw pawb mewn gwirionedd, y peth ydynt yn marn mwyafrif y rhan oleuedig o'r oes ag y maent yn byw ynddi.
Tri pheth bob amser sydd i ffurfio cymeriad pob creadur moesol - ansawdd ei feddwl, ysgogiadau ei ewyllys, a chamrau ei fuchedd. Nid y swydd ag y mae dyn wedi ei osod ynddi sydd yn ffurfio ei gymeriad. Gall dyn gael ei wisgo â'r swyddau mwyaf urddasol a chysegredig, a bod ei gymeriad ddim gwerth ei godi o'r domen byth. O'r ochr arall, nid iselder sefyllfa dyn mewn byd nac eglwys sydd yn ffurfio ei gymeriad. Gall person fod yn isel yn ngolwg personau unigol, gwael, a diegwyddor, ac eto yn meddu y cymeriad goreu ar wyneb y ddaiar. Y cymeriad goreu ar wyneb y ddaiar yn yr oes hono oedd Joseph. Yr oedd cymeriad Joseph yn un mor dra rhagorol fel yr oedd wedi ei nodi i lawr yn Tolumes mawr y tragywyddol gynghor droion i fod yn gysgod o Dduw oedd i ymddangos mewn cnawd. Ac hefyd, bu fel offeryn i gadw byd rhag marw o newyn; ac nid oedd cymeriad o'r fath yma yn ngolwg ei frodyr ond gwerth un-dolar-ar-bymtheg i gyd.
Heb ymdroi ychwaneg yn y dyll yna, deuwn at wrthddrych ein cofiant.
Ganwyd Owen W. Rowlands yn y flwyddyn 1797, yn Llanberis, Swydd Gaernarfon, Gogledd Cymru. Gelwid ef yno Owen William, Beudy Mawr. Ymfudodd i'r wlad hon, a'i wraig a'i fab, yn y flwyddyn 1846, ao ymsefydlodd ar Welsh Prairie, mewn ffarm o'r enw Bryntirion, lle y bu hyd ei farwolaeth, yr hyn a gymerodd le Hydref 25ain, yn 70 mlwydd oed. Un o'r rhai gwynfydedig oedd, sydd wedi marw yn yr Arglwydd.
Ar yr 28ain o'r un mis, ymgasglodd tyrfa luosog o'r cymydogion i weinyddu y gymwynas olaf iddo. Ymunodd â chrefydd, ac a Dirwest yr un amser, yn Llanberis, pan yn 38 mlwydd oed. Nid ydym ar hyn o bryd yn gwybod ei resymau dros oedi cyhyd. Yr ydoedd wedi cyrhaedd un flwyddyn yn hynach na Saul o Tarsis cyn gofyn, "Arglwydd, beth a fyni di i mi wneuthur?" Bu yn proffesu crefydd 32, a bu ffyddlon hyd angau. Ac yn awr, mae ei Arglwydd wedi rhoddi iddo yntau "goron y bywyd."
Buom ni am dymhor yn yr un eglwys ag ef, ar Welsh Prairie, felly cawsom fantais i ddal ar ei symudiadau; ac, yn ol ein tyb ni, ni buasai dim cymhwysach i osod allan ei wir gymeriad nag, Owen, yn wir, a fu ffyddlawn yn ei dŷ ef megys gwas. A'r hyn a allodd hwn, efe a'i gwnaeth. Mae miloedd ar filoedd o ddynion yn y byd, yn wancus awyddus am wneyd pob peth nad allant, ac nid ydynt yn foddlon atal i wneyd dim sydd o fewn eu cyrhaeddiadau. Y mae y dosbarth yma oll yn myned trwy'r byd heb wneyd dim ond hyny a allant o ddrwg, ac nid yw hyny ychwaith ddim, fel y mae goreu y modd. Nid un felly oedd Owen Wüliam. Pa swydd bynag fuasai ei frodyr yn roddi arno i'w chyflawni, yr oedd yn barod mewn mynyd. Os buasai yn cael ei alw i fod yn arolygwr, neu ysgrifenydd yr Ysgol, yr oedd yn barod i wisgo y swydd, a ffyddlon i'w chyflawni. Os buasai rhyw un cymhwysach wedi dyfod i'r gymydogaeth, a phenglogau gweigion am roddi hwnw yn ei le, yr oedd yr un mor barod i ymddihatru o honi ag ydoedd i'w gwisgo. Y mae y rhan fwyaf yn cymeryd eu gwisgo mewn swydd yn bur esmwyth; ond y mae ymddiosg o honi yn eu lladd yn farw.
Mae llawer yn awyddus i siarad yn dda, ond mae dysgu bod yn ddystaw yn fwy o gamp gan mil o weithiau na dysgu siarad. Fe sieryd y gwallgofiaid yn ddidor, ond mae yn rhaid cael gŵr synwyrol i fod yn ddystaw. Pan y caffai ei symud o'r swydd o lywyddu, ac ysgwyd y deyrnwialen gyffredinol i lawr i'r dosbarth isaf i ddysgu yr A B C i'r plant bach tlodion, byddai yn y fan hono yn edrych yr un mor ddedwydd, a'i wên nefolaidd ar ei wyneb. Byddai weithiau yn ctiel ei alw i gynnal y moddion cyhoeddus ddwy, ac weithiau dair gwaith yr un Sabboth, gwnelai heb nacâd. Byddai dro arall yn cael ei esgeuluso am fisoedd heb neb yn gofyn ganddo wneyd dim yn gyhoeddus. Nid oedd y naiìl mwy na'r llall yn cael un argraff arno er effeithio ar ei ymddygiad. Yr oedd yn nghanol llifeiriant chwyrn coegni amser, fel yn gweled o'i flaen ryw sefydlogrwydd tragywyddol, ac yn mlaen ar hwnw yr oedd yn wastad yn edrych.
Ymostwng i'r Ddwyiol ewyllys oedd ei nôd yn mhob peth. Bum yn meddwl droion wrth edrych arno am y desgrifiad mae John Newton yn roddi o'r ddau angel hyny, sef, pe buasai y Jehofah wedi trefnu i ddau o'r angelion penaf i ddyfod allan i'r ddaiar yma am dymhor penodol, a threfnu i un o honynt i lywodraethu teyrnas, a'r llall i ysgubo yr heolydd, y buasai yr angel fuasai yn ysgubo yr heolydd yr un mor ddedwydd a'r hwn fuasai yn ysgwyd y deyrnwialen.
Felly wrth edrych ar yr hen frawd ymadawedig o ran ei gorff, yr oedd fel rhyw beth benthyg iddo, yr oedd yn denen, gwan, ysgafn, a chrynedig - ei lais yn wanaidd a gwichlyd, ac ychydig o atal dywedyd arno. Nid oedd ei ddillad un amser yn ei ffitio, ond yr oeddynt fel rhyw beth yn crogi ar hoel. Bum yn meddwl mai rhyw hen angel oedd, wedi cymeryd gwibdaith i'r ddaiar yma; ac wedi galw heibio maes Ephron yr liethiad wrth ddyfod, a bod ei law dipyn yn flewog, ac iddo wrth ddyfod heibio gymeryd benthyg corff un o'r hen batriarchiaid, i aros am dymhor yn ein plith ni. Yr oedd rhyw beth yn debyg ynddo i'r angel yr oedd John Newton yn son am dano. Nid oedd un amser yn grwgnach o herwydd dim.
Pan yn dewis blaenoriaid i'r eglwys, yr oedd pob peth yn iawn bcb amser. Pan y byddai y pregethwr mwyaf cyffredin yn pregethu, byddai yn gwrando mor ddifrifol a phe buasai enwogrwydd mwyaf yr oes yno. Nid diffyg yn ei ddeall, na'i rêl chwaith, oedd yr achos - yr oedd i fyny yn hyny a'r cyffredin o'i oes. Gyda golwg ar ei egwyddorion crefyddol, nid oedd arno ef eisiau traethawd i ddangos pa le yr ydoedd y Limits of Orthodoxy. Nid oedd ganddo ef
"Yn wyneb Moses
Ond Iesu i ddadleu ei gwyn,
Y Cyfiawn dros annghyfiawn
Fu farw er ei fwyn."
Bu yn glaf oddeutu tair wythnos. Ei glefyd diweddaf oedd rhyw ddyryswch yn yr Urinous departments. Dywedai y Parch. R. Evans wrth anerch y dorf ar lan ei fedd, mai peth anrhaethol ei werth oedd fod dyn yn cael ei gymhwyso i gyflawni gorchwyl bywyd mewn iechyd, a bod yn barod i farw pan ddelo yr alwad.
Claddwyd ef, fel ei Frawd hynaf, mewn bedd newydd, lle y caiff orphwys o hyn allan hyd nes byddo udgorn Jubili holl gaethion marwolaeth yn bloeddio, ac yna bydd Owen William yn eu plith yn iach o'i ben i'w draed.
EVAN JENKINS.