MR. RICHARD ABRAHAM, STEUBEN, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.

Yr oedd Richard a'i wraig Elizabeth yn byw yn Tŷ Newydd Gelliwig, tyddyn bychan ar stad Gelliwig ym mhlwyf Bryncroes. Yn ogystal a ffermio'r tyddyn 'roedd hefyd yn gweithio fel gwas i'r Cownsler Jones o Gelliwig. Un tro pan oedd ar gefn ei geffyl gofynodd y Cownsler Jones i Richard beth oedd yn ei weld yn debyg i ŵr bonheddig ar gefn ceffyl ac atebodd Richard "teiliwr ar gefn mul."

Roedd gan Richard ac Elizabeth o leiaf naw o blant.

Thomas Abraham oedd yr hynaf ac yn dilyn oedd, John Prichard a William Prichard. Ymfudodd y tri brawd yma yn 1800. Y plant eraill oedd :

Griffith geni 1781
Robert geni 1788
Catherine geni 1789
Ellis geni 1790
John geni 1792
Gwen geni 1796

Ymfudodd Richard ac Elizabeth Abraham a Gwen y ferch ieuengaf yn 1818.

Bu farw Richard Abraham yn 1820 yn 68 mlwydd oed ac Elizabeth yn 1831 yn 84 mlwydd oed. Mae'r ddau wedi'u claddu ym mynwent y Capel Uchaf, Steuben.

Glyn Roberts ~ Gorffennaf 2021.