MR. MARGARET WILLIAMS. IXONIA, WISCONSIN.

Gorphenaf l8fed, yn Ixonia, Wisconsin, yn nhŷ ei mab-yn-nghyfraith, William Griffith, Mrs. Margaret Williams.

Genedigol ydoedd o Brynengan, Sir Gaernarfon, Gogledd Cymru. Daeth i'r wlad hon tua 39 mlynedd yn ôl. Bu farw ei gŵr, John Williams, yn mhen tair blynedd ar ôl cyrhaedd yma, yn Utica, lle y bu hi yn byw 18 o flynyddoedd, a naw o'r rhai hyn dan gapel y T. C.

Symudodd i Wisconsin gyda'i merch a'i mab-yn-nghyfraith yn y flwyddyn 1846, lle y bu hyd ddydd ei marwolaeth, a chafodd ymgeledd gymhwys yn ei chystudd maith. Ei chlefyd marwol oedd y cancr ar y llygad, Dyoddefodd lawer yn y pum' mlynedd diweddaf o'i hoes. Nid oedd ganddi i'w chysuro ond addewidion a thystiolaethau y gwirionedd. Gorfoleddai lawer yn Nuw ei hiachawdwriaeth. Analluogodd ei chlefyd hi i fyned i'r capel ond tair gwaith yn ystod y pum' mlynedd, ac nis gallai fod ond ychydig o'r gwely am y ddwy flynedd olaf. Ond diangodd o'r diwedd, wedi cyrhaedd yr oedran mawr o 82 mlwydd oed.

Felly y terfynodd Margaret Williams ei gyrfa ddaiarol. Côf gan lawer o bobl Utica am dani er amser ei harosiad yno yn nhŷ y capel.

Claddwyd ei rhan farwol ger capel y T. C. yn Ixonia. Gwasanaeth crefyddol wrth y tŷ, ac yn y capel, gan yr ysgrifenydd, yn cael ei gynorthwyo gan y Parch G. Evans (A.), a phregethwyd pregeth angladdol yn y capel, yn mhen tair wythuos. "Coffadwriaeth y cyfiawn sydd fendigedig." Ac ymae coffadwriaeth y chwaer hon felly yn Ixonia.

Proffesai grefydd er yn ienanc gyda y T. C, a pharhaodd hyd y diwedd. "A'r neb a barhao hyd y diwedd, hwnw a fydd cadwedig." Cafodd daith drafferthus, ond gorchfygodd trwy Grist, yr hwn oedd yn ei nerthu, Buom yn ymweled â hi droion, ac ymddangosai bob tro yn nefolaidd ei hysbryd, ac yn hiraethu am fyned adref at Iesu, "Canys," meddai, "llawer iawn gwell ydyw." Cafodd y fraint o dalu y pwyth i'w rhiant, a gwnaeth hyny yn anrhydeddus; a pheth mawr yw i blant gofio fod hyn yn ddyledswydd ac yn fraint.
T. R. JONES.

Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Ionawr 1868.