MR. ROBERT WILLIAMS. STEUBEN, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.
Medi 26ain, 1867, yn Steuben, yn agos i Gapel y Nant, yr hen bererin Robert Williams, yn 81 mlwydd oed. Yr oedd yn enedigol o Sir Gaernarfon.Mab ydoedd i William ac Ann Prichard, Bwlchderwyn, ac yr oedd yn frawd i Richard Williams, pregethwr gyda y T. C. yn y Sir nchod.
Ymfudodd i'r wlad honyn 1818. Bu yn proffesu crefydd 47 o flynyddoedd, felly cafodd hir ddyddiau i ddangos rhinweddau yr Hwn a'i galwodd. Yr oedd llawer o'r byd yma na wyddai yr hen frawd ddim am dano, ond yr oedd yn gyfarwydd a'r ffordd i'r nefoedd. Yr oedd yn gymhwysach i'r nefoedd nag i'r ddaiar. Er ei fod yn ei flynyddoedd diweddaf yn lled ddyryslyd yn ei feddwl, ni byddai raid ond sôn am enw Iesu Grist yn marw dros yr annuwiol, na cheid gweled fod ei galon yn teimlo, fel nad oedd dyryswch meddwl yn ei wahanu oddiwrth gariad Crist.
Bu farw yn dawel, a'i lygaid yn gweled iachawdwriaeth Duw. Gadawodd i alaru weddw oedranus a saith o blant. Rhoddwyd ei ran farwol i orwedd yn mynwent y Nant. Gweinyddwyd ar yr amgylchiad gan y Parch. B. Rees a'r ysgrifenydd,
R. F. JONES.