MRS. JANE BARTLEY. POMEROY, OHIO.

Ionawr 1af, 1868, yn Pomeroy, Ohio, yn 63 mlwydd oed, Mrs, Jane Bartley, priod Mr. Samuel Bartley.

Er fod y plant (y rhai sydd 5 mewn nifer) wedi tyfu i fyny, eto maent hwy a'u tad sydd mewn gwth o oedran, yn teimlo hiraeth fawr ar ei hol; mae ei lle yn wag.

Effeithiodd colli ei mab yn y rhyfel diweddaf, ac un arall yn Califfornia yn drwm iawn ar ei meddwl a'i chyfansoddiad; nes rhoi nerth mwy i'w hafiechyd.

Gweinyddwyd gwasanaeth ei chladdedigaeth yn nghlywedigaeth cynulleidfa luosog, a pharchus yn yr addoldy Esgobaethol, lle yr oedd yn aelod crefyddol.

Daeth hi a'i phriod i'r wlad hon tua 30 mlwydd yn ôl, o Dremadoc, swydd Gaernarfon, Gogledd Cymru.
JOHN LLOYD.

Y Cenhadwr Americanaidd ~ Mawrth 1868.