MR. OWEN DANIEL. KEY STONE MILL.
Bore. ddoe, y 5ed o Fawrth, 1868, daeth llithrfa fawr i lawr ar y peiriandy (engine house) lle yr oedd 11 o ddynion yn aros, a lladdwyd pump o honynt, tri yn Gymry - un dyn o'r enw Owen Daniel o Bethesda, swydd Arfon, Gogledd Cymru, tuag 21 oed.Cafodd ei ddryllio yn dost. Gwelais ei frawd John yn mynd i fyny bore heddyw i'w gladdu.
Nis gwyddai enwau y tri. Dywedodd mai enw un o'r ddau arall oedd Rees Jones, gŵr priod a'i wraig wedi myned i'r Talaethau er's tua blwyddyn a haner yn ôl, a bod iddynt saith o blant.
Yr oedd amryw o Gymry yn gweithio yn y Key Stone Mill. Ni ddaeth y manylion yma eto.