MR. ALFRED PACE EDWARDS. JOHNSON'S COUNTY, IOWA.
Bu farw Mawrth 14eg, 1868, Alfred Edwards, yn 34 oed.Ei afiechyd, inflammation of the lungs.
Mab ydoedd i'r diweddar Evan ac Ann Edwards, diweddar o Cambria, Wisconsin., o Gymru, Bethesda, Arfon,- ond a adwaenid wrth yr enw A. Edwards, Bodwrog, Môn.
Dygwyd y brawd Alfred Edwards i fyny yn grefyddol gan ei rieni er yn blentyn yn Jerusalem, Bethesda, Arfon, ac yn Cambria, Wisconsin.
Yr oedd yn ddyn call, cymydog da, ac yn ben teulu tra rhinweddol, fel yr oedd ei farwolaeth yn golled ddirfawr i'w briod a'i blant. Wythnos y bu yn ei afiechyd olaf. Ehedodd ei enaid ymaith gan adael ei anwyl briod a phump o blant amddifaid i alaru am dano yu nghyd a mam a pedwar o frodyr a phedair o chwiorydd. Claddwyd ef yn barchus yn ochr ei dad yn mynwent y capel.