MRS. JANE EVANS. CINNCINATI.
Mawrth 7fed, 1868, yn Cincinnati, ar ôl blynyddoedd meithion o gystudd, o'r Dyfrglwyf, Mrs. Jane Evans, yn 70 mlwydd oed.Merch ydoedd i Mr. Owen Prichard, Llanddwrog, Caernarfon, Gogledd Cymru.
Ymfudodd i'r wlad hon yn 1829. Ymbriododd â Mr. Thomas Evans, Painter. Buont yn aros yn New York, Columbus, Ohio, a St. Louis : ond dros yr ugain mlynedd diweddaf yn Cincinnati.
Bu farw Mr. Evans Ionawr, 1866. Brodor o Lanfaircaereinion, Trefaldwyn, oedd ef. Bu iddynt un ferch, sydd eto yn fyw mewn galar ar ei hol. Cymerodd perthynas i Mrs. Evans, o'r enw Catherine Jones, ei gofal mewn modd tyner a manwl dros lawer blwyddyn, mewn undeb a'i merch a'i mab-yn-nghyfraith. Meddai hyder yn y glyn fod pob peth yn dda.
Claddwyd hi yn anrhydeddus, Y Parch. H. Powell yn gweinyddu.