MRS. REBECCA EVANS. QUAKER HILL, NEW YORK.
Medi 25ain, 1868, yn Quaker Hill, New York, Mrs. Rebecca Evans, yn 70 mlwydd oed.Ymfudodd y drengedig i America o Leyn, Arfon, Gogledd Cymru, gyda'i phriod ac un plentyn, yn y flwyddyn 1823, a buont yn cartrefu am flynyddoedd ar fryniau Steuben.
Ymunodd รข chrefydd yn y flwyddyn 1826, a bu hi ac ychydig eraill yn dechreu yr achos yn French Road. Yn y flwyddyn 1847 symudasant i Quaker Hill, a buont hwy ac ychydig eraill yn ymdrechgar i sefydlu achos crefydd yno hefyd, ac arnynt hwy y bu llawer o bwys yr achos tra buont byw. Yr ydoedd y wraig dduwiol hon yn gwir ofalu mewn llettygarwch a phob ymgeledd i bregethwyr ac eraill. Byddai yn llawen o gael cyfle i ddangos ei chariad at yr Iesu, trwy wneyd ymgeledd i'w bobl ef. Gwnaeth ei goreu i gysuro ei theulu lluosog, a hyrwyddo y ffordd iddynt gael breintiau crefyddol.
Cafodd fyw i henaint teg, a nerth a hoewder lled dda hyd yn ddiweddar. Dygodd i fyny wyth o blant, o'r rhai y mae saith eto yn fyw. Rhoddodd iddynt gynghorion ac esiamplau da, a gobeithiwn yr etyb yr Arglwydd ei gweddiau ar eu rhan, er eu dychwelyd at Dduw eu rhieni.
Hunodd y wraig dduwiol hon yn yr Iesu y dyddiad uchod, wedi proffesu proffes dda yn ngwydd llawer o dystion am ddeugain ralynedd.
Claddwyd hi yn barchus yr 28ain Medi, yn mynwent capel y Nant. Heddwch fyddo i'w llwch.
THOMAS WILLIAMS.