MR. JOHN R.JONES, WESTERN, ONEIDA, NEW YORK.
John R. Jones, gwrthrych yr hanes canlynol, ydoedd fab i Robert a Jennet Jones o Benllech, plwyf Bryncroes, Sir Gaernarfon, Gogledd Cymru, ac a fu byw dros rai blynyddoedd mewn lle a elwir y Caerau yn yr un plwyf.Yn y flwyddyn 1831 ymfudodd gyda ei deulu i'r America; a bu byw yn Steuben, swydd Oneida, C. N. y flwyddyn gyntaf gyda ei frawd, Wm. R. Jones. Wedi hyny bu yn byw yn Ffloyd thua 4 blynedd; oddi yno symudodd i Western, lle y trigodd hyd ddydd ei farwolaeth.
Yr oedd yn ddyn o dymherau hawddgar rhagorol — yn fwy felly na dynion yn gyffredin — tawel ac amyneddgar, a pharchus iawn yn ei gymydogaeth gan Gymry a Saeson.
Ond gyda galar iddo ei hun treuliodd 59 o flynyddau heb wneuthur proffes gyhoeddus o enw yr addfwyn lesu. Ond pan gymerodd yr iau arno, llafuriodd a'i holl egni. Ymuuodd a'r Trefnyddion Wesleyaidd yn nghapel Sixty, Steuben, yn y flwyddyn 1838, a bu yu aelod flyddlon a diwyd iawn am yn agos i'r 6 blynedd y bu yn y winllan, a rhoddodd dystiolaeth eglur cyn ei ymadawiad ei fod yn myned i dderbyn ei wobr.
Cymerwyd ef yn glaf gan boen yn ei gefn oddeutu 2 fis cyn ei farwolaeth; dyoddefodd boeuau arteithiol iawn. Ond yn nghanol ei gystudd yr oedd yn gallu gorfoleddu yn Nuw ei Iachawdwriaeth. Nos Wener cyn ei farwolaeth, dywedodd ei fod yn esmwyth a thawel iawn. Gofynodd y brawd Evan Jones iddo, pa un ai ar ei goríf ai ar ei enaid yr ydoedd mor dawel a hyfryd ? Atebodd yn llawen iawn mai ar ei enaid ; a dechreuodd ganmol a chlodfori Duw gyda bywiogrwydd anarferol, mewn geiriau ac iaith rhy helaeth i'w hysgrifenu yn yr hanesyn hwn. Diweddodd ei yrfa ddaearol ar y 14eg o Dachwedd, 1843, yn y 65 flwyddyn o'i oedran, mewn llawn hyder ffydd, ac aeth i mewn i lawenydd ei Arglwydd.
Ar yr 16eg ymgynullodd cynulleidfa luosog o Gymry a Saeson i gludo y corff - yn gwael i'w hir gartref yn mynwent Capel Uchaf, Steuben. Cyn claddu, pregethodd y Parch. R. Everett yn Saesonaeg, a,r Parch. John Jones yn Gymraeg.
Wedi hyny rhoddwyd ef i orwedd yn y graian oer hyd y dydd mawr ac ofnadwy hwnw, pan y gelwir y byw a'r meirw i gyfarfod y Barnwr mawr, pan y bydd yn dyfod i gasglu ei ysbubau o bedwar parth y byd.
Y Cenhadwr Americanaidd ~ Chwefror 1844
John R. Jones, native of Carnarvonshire., N. Wales, died Nov. 14, 1843 age 65 yrs.