MRS. MARGARET GRIFFITHS. REMSEN, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.

Gwraig ydoedd i Mr. Griifith O. Griffiths o Bentref Remsen. Yr ydoedd y wraig hon yn un o'r Cymry cyntaf a sefydlasant yn Steuben.

Enwau ei thad a'i mam oeddynt Capt. William a Mary Williams. Cychwynasant o'r Rhiw yn Lleyn, Sir Gaernarfon, yn mis Mawrth, 1795, a thiriasant yn New York yn Gorphenaf, wedi bod ar y môr 14 wythnos. Ganwyd hi ar y daith hon yn Brooklyn. Yna cychwynasant am Steuben, a daethant i Utica pryd nad oedd Utica ond ychydig o dai logiau a thafarn logiau ac un tŷ ffarm. Buont bedwar diwrnod yn dyfod o Utica i Steuben mewn gwagen wedi ei chyfro yn cael ei thynu gan bedwar o ychain a cheffyl yn eu harwain. Cyrhaeddasant y dydd cyntaf yn agos lle mae tŷ y Parch. William D. Williams: yr ail ddydd i South Trenton, a'r trydydd i Trenton, a'r olaf i Steuben yn agos i'r Sixty Acres, erbyn y 15fed o Fedi.

Yna dechreuasant adeiladu cabanau erbyn y gauaf oedd gerllaw. Dyma y Cymry cyntaf a ymsefydlasant yno - pump o deuluoedd, yn 18 o nifer, a Mrs. Griffiths yn faban y pryd hyny ychydig o wythnosau oed. Yma y dygwyd hi i fyny hyd y priododd gyda yr hwn sydd yn galaru ar ei hol yn awr yn weddus. Priodwyd hwy yn y flwyddyn 1816. Buont fyw ychydig yn Steuben ar ôl priodi, a symudasant i Remsen, ac yno mewn gwahanol fanau y buont fyw hyd ei hangau.

Yn y flwyddyn 1829 ymunodd hi â chrefydd - aeth hi ei hun i'r society unwaith, a'r ail dro aeth ei gŵr gyda hi i Penycaerau, a buont yn ffyddlon yn yr undeb hwnw hyd y flwyddyn 1837, pryd y ffurfiwyd yr Eglwys Gynulleidfaol yn mhentref Remsen, yn mha eglwys yr arosodd hyd ei hangau.

Yr ydoedd yn fam i 11 o blant, 5 wedi marw a 6 yn aros yn fyw. Bu dau fachgen farw, un yn dair a'r llall yn bump oed, a dwy ferch, un yn ferch ifanc a'r llall yn wraig i Mr. Morgan Owen, a'r mab arall, Lieut George Griffiths, ar y Malvern Hill yn y rhyfel. Buodd marw y plant yn ergydion trymion iddi, ond marw George yn y rhyfel oedd y trymaf oll. Ond meddianai hi ei hun yn rhyfedd á thawelwch y pryd hyny - a dywedai y pryd hwnw ei fod wedi marw dros ei wlad, ac nad oedd iddynt hwy golli eu hanwyl fab ddim yn fwy nag oedd ar eraill filoedd oedd yr un modd a hwythau.

Cafodd fyw i weld ei phlant (y rhai ydynt fyw) oll, a'i phlant yng nghyfraith oll, a'i hwyrion oll, yn cael eu derbyn yn aelodau yn yr un eglwys a hi ei hun, ac wedi eu derbyn gan yr un gweinidog, oddieithr un, yr hon a dderbyniwyd mewn eglwys arall, a'i baban sydd dan oed.

Yr ydoedd yn wraig lafurus a diwyd iawn yn mhethau y bywyd hwn, ddystaw a thawel iawn bob amser drwy ei holl fywyd, yn heddychol a ffryndiol yn mhob cymydogaeth y buodd byw, ac a ganmolid yn fawr gan bawb yn ei thy. Yr un modd yn ffyddlon iawn yn ei chydgynulliad yn yr eglwys, a'i theulu yr un modd sydd wedi bod yn eu ty ac yn y capel yn bleidwyr caredig a ffyddlon i'r achos mawr bob amser - eu ty a'u calon yn derbyn a lletya gweision Crist ac eraill, fel y maent yn gyffredinol gydnabyddus fel teulu i bawb a fyddant yn ymweled a ni y ffordd hon.

Dechreuodd ei hafiechyd ers rhai blynyddau, sef y cancer yn y fron,yr hwn yn yr Hydref diweddaf a gynyddodd nes yr aeth hi yn gwbl orweddiog, yn llesg ac yn gwbl analluog i symyd heb help. Ond yr ydoedd yn gwbl dawel, gan ddywedyd yn aml nad oedd dim arall i'w ddisgwyl - yn ymddifyru yn fawr mewn cyrddau bach i gydweddio, ac i adrodd geiriau Duw a hymnau. O mor dda y byddai hi yn teimlo ar ol y cwrdd bach gweddi. Ac yn y tawelwch hwnw y parhaodd hyd y syrthiodd i gwsg angau, o'r hwn y deffrodd yr ochr arall i angau.

Gofynodd i'r doctor unwaith a oedd un gobaith iwella? i'r hyn yr atebodd nad oedd un golwg i hyny; a byddai yn adrodd na chyffrodd hyn ddim ar ei meddwl. "Ni frysia neb a gredo." Ffafriwyd hi yn fawr a'i merched gartref yn ei thendio yn ffyddlon a diflino - byddai yn diolch llawer am hyny.

Mae ei lle yn wag yn yr eglwys, yn y ty, ac yn mhob man ond yn y nef fel yr ydym yn hyderu. Bydded i'r teulu gymerdroli eu galar a pharatoi a hiraethu am fyned ar ei hol.

Bu farw y 19eg o Ragfyr. Claddwyd ei chorff yn mynwent Fairchild, a gweinyddwyd mewn anerch y bobl gan y Dr. Everett a'r ysgrifenydd.
MORRIS ROBERTS.

Y Cenhadwr Americanaidd ~ Chwefror 1869.