MRS. PHEBE HUGHES, WEST BANGOR, PENNSYLVANIA.
Hydref 3ydd, 1868 yn West Bangor, Pennsylvania, Phebe Hughes, yn 71 mlwydd oed. Gadawodd briod oedranus ac unig, a thri o blant, heblaw amryw wyrion bychain, i alaru eu colled am dani. Nid colled ei theulu oedd yr unig golled gafwyd yn ei marwolaeth, yr oedd yn golled i'r ardal i gyd, ac ar ryw ystyriaeth yn fwy colled i'r ardal nag i'r teulu.Yr oedd mor dyner ei chalon, a pharod ei chymwynas - mor ddeallus a medrus mewn amgylchiadau o bwys, fel yr oedd yn un o'r gwragedd hyny sydd yn anhawdd eu hebgor mewn ardal - sydd nid yn unig yn fam teulu, ond hefyd yn fam cymydogaeth. Yr oedd y lluaws oedd yn ei chynhebrwng yu brawf o'r serch a deimlid tuag ati, a'r golled ar ei hôl.
Bu yn proifesu crefydd am 28 mlynedd. Ymunodd â chrefydd gyntaf yn Llanddeiniolen, Gogledd Cymru. Pan sefydlodd y Wesleyaid achos yno, ymunodd gyda hwy, am mai atynt hwy yr oedd tueddiad ei meddwl bob amser. Bu ei thŷ yn noddfa i'r achos yn ei gychwyniad. Bu yn aelod ffyddlon gyda yr un bobl yn y pentref yma drachefn am 21 mlynedd. Tair blynedd yn ôl, pan roddodd yr ychydig frodyr Wesleyaidd yr achos i fyny, dewisodd hi ymuno a'r T. C, a bu yn aelod dichlyn iawn gyda hwy hyd ddydd ei marwolaeth. Aeth i gyfarfod brenin y dychryniadau yn hynod hyderus. Dymunai yn fynych yn ei chystudd am i'r Arglwydd beidio ei chystuddio yn drwm, nac yn faith. Adroddai amryw adnodau a hen bennillion yn ystod ei chystudd, ac yn enwedig yr hen bennill :
"Am graig i adeiladu," a.y.
Fel yna, yr ydym yn rhyw obeithio y cafodd fynediad helaeth i mewn i dragywyddol deyrnas ein Harglwydd a'n Hachubwr, Iesu Grist.