MRS. CATHERINE JONES. BRYNLLYDAN, COLUMBUS, WISCONSIN.
CATHERINE JONES. Rhagfyr 25ain, 1868, Catherine, priod William R. Jones, Brynllydan, ger Columbus, Wisconsin, wedi pasio 73 mlwydd oed.Merch ydoedd i Hugh a Grace Hughes, Ty'n-twr, Llanllechid, Arfon, Gogledd Cymru.
Ymfudodd gyda'i gŵr a'i phlant i'r lle uchod yn y wlad hon tua 21 mlwydd yn ôl. Yr oedd yn wael er ys blynyddau, ond ymdrecha i sefyll i fyny, fel na bu yn gorwedd o gwbl. Ei hafiechyd oedd natur y dyfrglwyf, clefyd y galon, a'r parlys.
Teimlai yn well nag arfer y dydd olaf y bu fyw, ac eto ynrhyw feddwl fod amser ei hymddatodiad yn agosau; gwnai amryw fân gymwynasau fel o ffarwel. Ei gwaith diweddaf oedd darllen y 5ed bennod o'r Actau. Am 11 o'r gloch y nos, cafodd ei tharo a'r parlys, a bu am y rhan fwyaf o'r amser fel mewn trymgwsg o hyny hyd 6 o'r gloch boreu dranoeth, pryd yr ehedodd ei henaid at ei Cheidwad, yr hwn yr oedd mor hoff o son a darllen am dano. Atebai yn rhesymol, er yn gynil, yr hyn a ofynid iddi braidd hyd y diwedd.
Y pryd y cafodd yr amlygiadau cyntaf o ogoniant y Ceidwad yn dra nerthol oedd yn y "Plygain" (fel y dywedir), Rhagfyr 25ain,1824, yn yr Eglwys Newydd, plwyf Llandegai, Arfon, tra y pregethai y gŵr duwiol. Mr. Hughes, oddiar "Ganwyd i chwi heddyw Geidwad." Ymunodd yn ddioed ag eglwys y T. C. yn Carneddi, plwyf Llanllechid. Fel y mae i bob Cristion ei neillduolion, felly yr oedd i'r chwaer hon. Argyhoeddwyd Paul ar haner dydd, ceìdwad y carchar ganol nos, a hon yn y "plygain," yn hen Eglwys y plwyf, a gorphenwyd y gwaith da ar yr un dydd o'r flwyddyn. Cafodd ei bywyd yn Nghrist yn mhlygain y Nadolig, ac yn mhlygain y Nadolig y bu farw yn yr Arglwydd. Cychwynodd o'r Aipht foreu dydd Nadolig, ac o fewn corff y dydd hwnw y cyrhaeddodd Ganaan, wedi teithio yn yr anialwch yn hwy nag Israel o bedair blynedd.
Bu yn ddiddolur i'r eglwys ar hyd ei thaith grefyddol, ac yn addurn i'w phroffes. Teimlai yn gyffredin yn lled siriol o ran ei phrofiad, gan feddwl yn fawr am ei Cheidwad, ac ymddiriedai ynddo hyd y diwedd. Darllenai lawer ar lyfrau crefyddol. Aeth dros "Gorphwysfa y Saint" ddwywaith y misoedd diweddaf, a'r tro olaf yn enwedig yn dra manwl; ond ei phrif lyfr oedd y Beibl; aeth drosto iddi ei hun laweroedd o weithiau.
Arferai gynnal addoliad teuluaidd bob yn ail a'i phriod nes y daeth ei mab i dder- byn y fraint o'i llaw, a darllenai bob yn ail hyd y diwedd. Hi ddarllenodd y noson olaf y bu fyw.
Hebryngwyd ei rhan farwoi i dŷ ei hir gartref gan dorf luosog ar yr 28ain, a gweinyddwyd ar yr achlysur gan
JOHN J. ROBERTS.