MRS. ELIZABETH JONES. REMSEN. ONEIDA COUNTY, NEW YORK.
Gwraig ydoedd i Mr, Jonathan Jones o Remsen a merch i un Richard Roberts, Nant, Lleyn, Sir Gaernarfon, ac yn chwaer i Robert R. Roberts, diweddar o Remsen. Collodd ei mam pan yn chwech mis oed, a magwyd hi gan ei nain ŷn nhy Cape] Rhydbach, ac felly cafodd fagwraeth yn nhy Dduw ac vn nghymdeithas pregethwyr y Methodistiaid Calfinaidd. Effaith y fagwraeth hono a'i dilynodd ei holl fywyd.Pan yn 15 mlwydd oed gadawodd Gymru am America, ac arosodd yn ninas New York hyd yn ddwy ar hugain oed, pryd y daeth i Steuben, ac yn y flwyddyn 1834 y priododd a Jonathan Jones, mab i dyddynwr o blwyf Trenton, o ran haniad wedi dyfod bron o'r un lle yn Nghymru. Yn mhen tua blwyddyn ymunodd y ddau a chrefydd yn y Capel Uchaf, Steuben, dan weinidogaeth y Parch. William D. Williams. Yr oedd yn lled rwydd iddi hi ymuno â chrefydd, oherwydd yr oedd ei dylanwad wedi dilyn ei meddwl yn barhaus er pan y gadawodd Gymru, a hyny wedi cynyddu yn New York wrth wrando ar y Methodistiaid Americanaidd, a buodd yn llawer o gymorth i'w gŵr i dori drwyddi i gyd-gychwyn gyda'r gwaith crefyddol. Parhausant yn aelodau yno hyd ffurfiad yr Eglwys Gymreig yn Trenton. Ar yr adeg hono ymunasant yno, ac yn ddiweddar symudasant i Remsen. Ond erbyn hyn, a chyn hyny flynyddoedd, yr oedd ei hiechyd wedi gwaelu yn fawr, fel mai ychydig a allai gael o foddion gras. Ond wrth fod ei thy ger y capel, ymhyfrydai yn fawr i weled y bobl yn myned yno, ac yn enwedig i glywed y canu ac weithiau ambell i floedd lled uchel yn y pregethau.
Yr oedd hynodrwydd y chwaer hon yn fwyaf yn ei thymer addfwyn, dirion a chydymdeimladol. Dywedai ei mam yn nghyfraith am dani ddisgwyl (yr hon oedd yn byw gyda hwynt ac yn 89 oed) - mai hi oedd ei ffrind goreu ar y ddaear. Yr oedd ei sirioldeb a'i pharodrwydd i helpu yn ei gwneud yn anwyl gan bawb lle y byddai. Peth arall hynod oedd ei chrefyddolrwydd. Siaradai am grefydd ac am yr achos bron o hyd - dyna oedd ei phleser, ac yn ei dyddiau a'i hwythnosau olaf mor gynted ag yr eid i'r ty estynai y Beibl yn y fan i'w ddarllena gweddio. Cafodd gystudd trwm i orphen gyrfa bywyd, ond daliai ei hyder yu gryf o dan y poenau oll. Dywedai mai rhyw len fach oedd rhyngddi a'r nefoedd - yr agorid y llen, ac y byddai gartref yn ebrwydd - ac felly fu.
Yr ydoedd hithau yn nodedig yn ei llafur a'i diwydrwydd teuluaidd, ac yn gofalu am ddysgu ei phlant i barchu crefydd a dysgu iddynt roddi yn gystal a derbyn ei chenadwri.
Gadawodd i alaru ar ei hol, briod, pump o blant yn fyw a mam yng nghyfraith oedranus. Bu farw ar y r 11eg o Ragfyr.
Claddwyd hi yn mynwent Capel Uchaf, a gweinyddwyd gan y brodyr Phillips, Williams, George a Roberts.
MORRIS ROBERTS.