MR. GORONWY OWEN JONES. BEREA, WISCONSIN (PROSCAIRON).
Medi 15fed, 1868, yn nhy Robert Davies, cymydogaeth Berea, Wisconsin, bu farw Goronwy Owen, plentyn i David Jones, gynt o gymydogaeth Dodgeville, yn 8 mis oed.Collodd Goroney ei fam trwy farwolaeth oddeutu chwe mis yn ôl. Yr oedd hi yn ferch i Humphrey Davies, gynt o Caecorniog, Llanddeiniolen, Sir Gaernarfon.
Dydd Mercher canlynol i'w farwolaeth, daeth lluaws o'n cydgenedl yn nghyd i hebrwng gweddillion marwol Goronwy bach i fynwent Proscairon, lle y rhoddwyd ef i huno yn dawel wrth ochr ei fam hyd foreu caniad yr udgorn.
R. DAVIES.