MR. GRIFFITH W. JONES. COLUMBUS, WISCONSIN.

Ebrill 29ain, 1868, yn ardal Columbus, Wisconsin, Mr. G. W. Jones, yn 57 mlwydd oed ar y 5ed o Fawrth diweddaf.

Mab ydoedd i William a Mary Jones, Drws-yr-efail, Abererch, ger Pwllheli, Sir Gaernarfon. Ymunodd mewn priodas â Mary Davies, Mur Crusto, Llangybi, yn y flwyddyn 1839. Buont byw yn Talcymerau, ger Pwllheli.

Ymfudasant i America yn y flwyddyn 1849. Bu iddynt ddeg o blant - pedwar wedi marw, a chwech yn fyw. Claddasant un yn Milwaukee, tra ar y ffordd wrth ddyfod yma.

Cafodd Mr. Jones lawer o salwch er pan yn y wlad hon, ond byddai yn gwella o bob clefyd a phob afiechyd hyd nes daeth yr amser terfynedig. "A gosod o honot ei derfynau fel nad ôl drostynt." Er iddo gael hir nychdod, dyoddefodd yn dawel, gan amlygu yn ei gystudd fod ganddo afael gref, fod ei ben ar fynwes yr Iesu, a'i draed ar y y Graig yn ngrym y dwr. Cafodd weled ei blant i gyd cyn marw, a chynghorai hwynt i fyw yn dduwiol, a gofalu am eu hanwyl fam, a bod yn ufudd iddi.

Cafodd bob cynorthwy meddygol hyd y mynyd olaf gan ei fab ei hun, sef Dr. William G. Jones, New Cambria, Missouri; ond er pob gofal ac ymdrech, ac er mor anwyl a chref oedd y berthynas, hunodd yn dawel yn yr angau, gan adael priod a chwech o blant i alaru ar ei ôl. Mai 2ail, ymgynullodd tyrfa luosog i dalu y gymwynas olaf iddo.

Gweinyddwyd yn y tŷ gan yr hen dad, Mr. John Daviee, Columbus;*: ac wrth y bedd gan y Parch. Richard Griffiths, yr hwn hefyd a draddododd bregeth yn y capel, ar ôl claddu, oddiar Job 10. 20.

Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Awst 1868.