MR. THOMAS JONES. BROOKLYN, NEW YORK.
Medi 25ain, 1868, Mr. Thomas Jones o Brooklyn, New York, cydfasnachwr â Howe and Company, New York.Mab ydoedd i Mrs. Jane Jones, diweddar o Remsen a mab ynghyfraith i'r Parch. J. Griffiths, Utica.
Ganwyd ef yn y Bala, Gogledd Cymry, dygwyd ef i fyny yn Prospect a Remsen. Yma y bu yn drigianydd hyd o fewn ychydig flynyddau. Yr ydoedd iddo helaeth gydnabyddiaeth a lîawer o gyfeillion ac yr oedd yn ffyddlon neillduol iddynt. Yr oedd yn fab ffyddlon iawn i'w fam, yr hon sydd yn weddw er pan ydoedd ef yn blentyn, yn llenwi yr enw brawd yn llawn i'w frawd a'i chwiorydd; yr un modd fel priod a thad.
Daliwyd ef gan afiechyd yn nghanol yr haf diweddaf, ond gwellhaodd, fel y gallodd ddyfod i Remsen er mwyn cryfhau a chwbl wellhau fel y disgwylid. Ond pan ddychwelodd yn ôl ail ymaflodd ei gystudd ynddo yn gryf a di-roddi-i-fyny hyd nes y terfynodd ei fywyd pau wedi pasio ei 42 mlwydd o'i oedran.
Yr ydoedd yn ŵr ieuanc o dalentau cryfion ac o fedr neillduol fel masnachydd, ac yn obeìthiol o gyraedd sefyllfa gysurus ŷn y byd iddo ei hun a'i deulu. Ond wele ei haul a fachludodd pan oreu ei obeithion. Aeth ymaith gan adael i alaru yn drwm ar ei ôl ei wraig ieuanc a'i fab bychan, ei fam, a brawd a chwiorydd, a llaweroedd o ffrindiau a chydnabod na allant ei gofio heb synu a galaru ei íod yn ei fedd.
Yr ydoedd wedi treulio ef flynyddoedd er y cwbl yn ddigrefydd, a phan ddaeth y cystudd yn ei rym a dweyd yn ei deimladau fod yn rhaid marw, daeth ei gyflwr a'i ymarweddiad anghrefyddol i bwyso yn galed iawn ar ei feddwl. Ond yn y caledi mawr hwnw digwyddodd iddo gael rhai yn mysg ei weinyddwyr a'i berthynasau a rhai o weinidogion y gair a fuont yn gyfarwyddwyr iddo ac yn weddiwyr drosto yn y cyfyngder mawr hwnw, fel y proffesai obaith am drugaredd i'w enaid amryw ddyddiau cyn ymadael a'r byd; ac y gadawai ar ei ôl rybudd difrifol i'w gyfoedion i ochelyd ei rhedeg mor bell ag y gwnaeth ef am fater mor fawr.
Claddwyd ef yn mynwent newydd Utica. Gweinyddwyd yn y tŷ (sef tŷ y Parch. James Griffiths) gan y Parch William D. Williams, ac yn y capel Columbia Street i gynulleidfa luosog iawn, gan y Parch. Evan Griffìths, New York, a'r brodyr J. R. Lewis o Boonville, cefnder i'r weddw ieuauc, yn Saesneg a'r ysgrifenydd yn Gymraeg.
MORRIS ROBERTS.