MRS. LAURA LEWIS. CEFNYGAER, REMSEN, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.
Nid oes dim yn eglurach na bod cymeriad y duwiolion yn effeithio yn ddaionus ar y byd, nid yn unig yn ystod eu bywyd, ond eu bod "wedi marw yn llefaru eto." Y mae eu coffadwriaeth yn fendigedig gan bawb, ac yn bêrarogl yn mhob lle. Cofio eu bucheddau grasol - cofio eu profiadau melus - cofio eu gweddiau taerion - cofio eu hesiamplau teg - cofio eu cyfraniadau haelionus, a chofio eu cynghorion dwysion, fu yn fendithiol i'w cydnabod am dymhor hir, a'r trosglwyddiad o honynt yn bendithio y rhai a'u dilynant dros amser maith.Y mae hanes bywydau gwragedd crefyddol wedi eu cofnodi yn anrhydeddus yn Ngair Duw, ac y mae yn ddiau fod bywyd wedi ei fyw i Grist yn deilwng o'i gofnodi yn mhawb; ond pan na cheir y manylion, edrychir ar fraslun o ryw werth, yn hytrach na chladdu y cyfan yn adfeilion dystaw y llwch; ac oni ddylai hon, a hi yn ferch i Abraham, gael ei rhestru yn mhlith y gwragedd duwiol a chrefyddol?
Man genedigol Mrs. Lewis ydoedd Pwllheli; yno y treuliodd y blynyddau cyntaf o'i hoes. Pan yn 14 mlwydd oed, symudodd i Lundain, arosodd yno nes yr oedd yn 28 mlwydd oed; a daeth oddiyno i'r wlad hon tua'r flwyddyn 1822. Yn fuan wedi ei dyfodiad yma, newidiodd ei sefyllfa, priododd gyda Mr. John Jones, Cefnygaer.
Yr oedd hyny wedi ei arfaethu ganddynt cyn dyfod o honynt i'r wlad hon. Buont byw yn ddedwydd a chysurus am ysbaid 17 mlynedd. Yna bu farw Mr. Jones yn dra sydyn yn y flwyddyn 1839. Yr oedd yn ddyn llonaidd, mwynaidd, a duwiol; bu farw yn grefyddol. Clywais mai ei ymadroddion olaf oedd, "Arglwydd Iesu, derbyn fy ysbryd." Felly gadawyd Mrs. Lewis yn amddifad o briod hoff ac anwyl; nid oedd ganddi na mab na merch i gydymdeimlo â hi yn ei thrallod a'i helbul.
Priododd eilwaith yn y flwyddyn 1843 gyda Mr. Lewis E. Lewis, yr hwn a fu yn dyner iawn o honi, ac yn ofalus iawn am dani yn ei henaint a'i chystudd diweddaf. Bu am amser maith yn hollol analluog, ond cafodd bob cynorthwy gan ei hanwyl briod, ag oedd mewn cyrhaedd braich o gnawd i'w roddi. Bu yr Arglwydd yn dyner iawn o honi yn ei Ragluniaeth : a bu hithau yn ffyddlon, diwyd, a gofalus; darfu i'r nefoedd eu bendithio a'u llwyddo, fel ag yr oedd ganddynt gyflawnder o drugareddau y bywyd hwn er gweini iddi yn ei chyfyngder. Nid yn unig yr oedd yn ffyddlon gyda phethau y bywyd hwn, ond yr oedd yn fwy felly gyda phethau y byd a ddaw. Cafodd y fraint o ymuno â chrefydd yn moreu ei hoes, a daliodd afael ynddi hyd y diwedd. Cafodd y fraint o fod gydag ychydig eraill yn cychwyn yr achos crefyddol yn Mhenygraig, a chafodd fyw i'w mwynhau yn ei gogoniant penaf, yn nghyd a chyfranogi i ddwyn traul yr adeiladu, ac ail adeiladu capel yno.
Yr oedd ei chalon a'i thŷ yn barod i dderbyn cenadon hedd, gweision Iesu Grist. Yr oedd yn hynod ofalus gyda dyledswyddau crefydd gartref, yn gystal ag yn yr eglwys; yr oedd yn hynod selog dros gadw addoliad hwyr a boreu yn y teulu. Os bydd gan un grefydd gartref, bydd ganddo yn mhob man. Bu Mrs. Lewis yn aelod hardd a defnyddiol yn eglwys Dduw am amser maith, dros, ddeugain mlynedd. Ymdrechodd ymdrech deg, a bu yn ffyddlon hyd angau. Wedi teithio llwybrau dyrys yr hen anialwch, croesodd yr hen Iorddonen i dir ei gwlad. Newidiodd y byd hwn am y nefoedd, yr anialwch am hyfryd diroedd Canaan. Yr oedd wedi byw i Grist, ac yr oedd yn cael marw yn Nghrist. Mor hyfryd yw y goleuni a deifl Cristionogaeth ar amgylchiad marw a'r bedd! Mae Crist yn fyw - mae y saint ymadawedig yn fyw. Buasai rhyw beth yn dorcalonus yn y bedd oni b'ai hyn. Ymadael heb obaith cwrdd mwy fuasai yn ddrychfeddwl pruddglwyfus; ond mae bywyd ac anllygredigaeth wedi ei ddwyn i oleuni trwy yr efengyl. Yn awr, nid oes achos i ddynion duwiol alaru fel rhai heb obaith; nid yw yr ysgariad i fod ond byr; cânt ail gyfarfod yn y man, ac uno i seinio clodydd Ion heb ymadael mwy. O, pwy nabyddai byw yn dduwiol! "Ystyr y perffaith, ac edrych ar yr uniawn, canys diwedd y gŵr hwnw yw tangnefedd."
Claddwyd Mrs. Williams, yn ôl ei dymuniad, yn mynwent Capel Uchaf, Steuben, yn ymyl ei gŵr cyntaf. Yno y gorphwysant ac y tawel hunant hyd y pryd y daw Iesu i'w deffro, yn nghyd a channoedd eraill sydd yn cydorwedd yno; yna y beddau a egyr, y meirw a gyfodir, a'r saint a berffeithir. "Gwyn eu byd y meirw, y rhai sydd yn marw yn yr Arglwydd."
Ond 'n awr mae wedi newid byd,
Sy'n llawn o orthrymderau i gyd,
Am freiniol gôr y nef,
Lle caiff ei henaid chwareu mwy,
A seinio hae&diant marwol glwy',
A thelyn fwya ei llef.