MR. GRIFFITH MAURICE. TRENTON, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.
Ebrill 29ain, 1868, yr henafgwr adnabyddus i lawer Mr. Griffith Maurice, o blwyf Trenton, New York.Yr ydoedd yn enedigol o Tyddyn Siencyn, ger capel Tyddyn, piwyf Bryncroes, Lleyn, Gogledd Cymru.
Ymfudodd i'r wlad hon yn y flwyddyn 1818, ac ymfudodd y Dr. Robert Maurice ei frawd a'u tad a'u mam y flwyddyn ganlynol.
Yn fuan priododd Mr. Griffith Maurice â Catharine H. Jones merch i Hugh Jones, Steuben, yr hon a'i blaenodd i'r bedd a'r byd a ddaw amryw flynyddoedd.
Ar ôl priodi sefydlasant yn mhlwyf Trenton, ychydig i'r Gorllewin o'r Pentref, y ddau frawd yn y ffermydd agosaf at eu gilydd, ac yn un o'r ardaloedd bach mwyaf dymunol o ran tir a sefyllfa yn y cwmpasoedd, ac yno buont byw ynghyd dros lawer o flynyddoedd, yno y bu eu rhieui farw ac yno y claddwyd hwynt, ac yno y bu gwrthrych y cofiant hwn byw hyd ei angau.
Y ddau fab uchod ydoedd holl blant y teulu hyn; cawsant ddygiad da i fyny mewn manteision addysg, yn fwy na llawer yn eu hamser, yr hyn a fu yn ddirfawr fudd i'r ddau trwy ei hoes. Yr ydoedd masnachu yn dueddol i Griffith Maurice yn yr hen wlad ac yma i raddau. Ond amaethu oedd ei fywiolaeth ef a'i deulu, ac fel y cyfryw buodd yn hapus yn ei ddewisiad, o'r tyddyn bychan a lleol ei gartref; ychwanegodd at hwnw hyd nes oedd yn dyddyn gweddol ei faint, a boddlonodd ar hyny a mwynhaodd ei gartref a'i amgylchiadau yn fwy na'r cyffredin.
Cyfrifid ef yn ŵr call a doeth ei gynghor a'i gyfarwyddyd i rai mewn angen a chyfyngderau - diameu fod llawer yn rhwymedig iddo am hyny hefyd.
Ymunodd a chrefòdd gyda y Methodistiaid Wesleyaidd yn Capel Sixty, Steuben, yn amser y brodyr Thomas Roberts a Dafydd Cadwaladr - dyna y pryd y sefydlwyd yr achos yn ardal y Sixty, ac yr adeiladwyd capel yn y lle. Yr ydoedd y lle yn bell oddiwrthynt hwy, ac felly yr oedd eu hanfantais yn fawr o allu bod yn gyson yno yn y moddion. Ond yr oedd moddion achlysurol, a lled rheolaidd yn cael ei gynal gan yr un enwad mewn ysgoldy yn eu hymyl. A gellir dywedyd yn ddiameu fod y brodyr hyn ynghyd ag eraill wedi bod yn golofnau yr achos am flynyddau lawer yn y lleoedd a enwyd. Ac yr oedd ei tai a'u teuluoedd yn brif ddisgynfa ac arhosfa gweinidogion yr enwad a'i gyfeillion dros yr holl flynyddoedd.
Yr ydoedd yn ŵr deallus mewn pethau crefyddol ac yn selog neillduol dros yr enwad y perthynai iddo, yn arfer haelioni at yr achos yn ei gartref yn gystal ac at bethau teilwng a da yn gyffredinol. Yr oedd ef a'i frawd a'u teuluoedd yn gallu mwynhau moddion Seisnig oedd yn y pentref gerllaw gan yr un euwad. Ac ers ychydig yn ôl dewisasant i fwrw eu coelbren i fod yn aelodau achlysurol gyda yr eglwys Annibynol Gymreig yn Trenton.
Ond ers rhai blynyddau yn awr daeth gwaeledd a musgrellni mawr i ran y brawd, yn gyntaf pallodd ei olwg o radd i radd nes myned yn gwbl dywyll, yna gwendid yn ei aelodau, a hwnw a gynyddodd yn fuan fel na allai na symud na gwisgo amdano, na helpu ei hun ag ymborth na dim; ond fel y helpid ef gan ei blant, a dedwydd oedd fod ganddo blant a ofalodd yn ffyddlon a thirion am dano yn ei holl anallu. Yr ydoedd yn meddiauu ei hun yn lled dawel a christionogol trwy yr holl amser, hoffai yn fawr gael cwmniaeth ei hen ffryndiau a'u cymdeithas. Ond yn ddisyniwth daeth cyfnewidiad trwy syrthio i lewygfa, ac ni allodd wellhau, ond gwaethygu a wnaeth hyd ei angau.
Yr ydoedd wedi cyrraedd ei 78 mlwydd o'i'oedran, a gadawodd i alaru ar ei ôl bump o blant, a'i frawd a'i deulu, yr hwn sydd yn brysio ar ei ôl mewn oedran a gwaeledd.
Gweinyddwyd yn ei gladdedigaeth gan y brodyr John Cadwaladr, D. T. Davies, Utica, Thomas Thomas, Morris Roberts a Dr. Everett.
Claddwyd ef yn ochr ei wraig yn mynwent y Capel Uchaf, Steuben. Gadawodd ei blant oll mewn sefyllfaoedd cysurus y'mhethau y byd hwn.
MORRIS ROBERTS.
Y Cenhadwr Americanaidd ~ Gorphenaf 1868.
MR. GRIFFITH MAURICE. TRENTON, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.
The last Will and Testament of Griffith Maurice of the town of Trenton in the county of Oneida and state of New York.I Griffith Maurice considering the uncertainty of this mortal life of seventy six years od age and upwards, and being of sound mind and memory blessed be Almighty God for the same, do make and publish this my last Will and Testament in manner and form following :
First. I give and bequeath to my daughter Sarah Maurice, two thousand dollars, and the house and lot found in Trenton in Trenton Village which I bought of Owen E Owens as payment to her for the services she has rendered me and the care she has taken of me.
Second. I give and bequeath to my daughter Jane Richards six hundred dollars for her services when she resided with me.
Third. I give and bequeath to my daughter Elizabeth two hundred dollars.
Fourth. I give and bequeath to my son Thomas Maurice one thousand dollars.
Fifth. I give and bequeath to John H. Jones who formerly lived with me one hundred dollars.
Sixth. I give and bequeath all the rest residua and remainder of all my estate and effects real and personal not herein before disposed of after paying any debts and funeral expenses, to my daughter Sarah Maurice and my daughter Jane Richards, wife of Hugh Richards and my daughter Mary Ellis, wife of John Ellis, and my daughter Elizabeth Jones, wife of Hugh H. Jones and my son Thomas Maurice and to be equally divided between them share and share alike.
Lastly. I do hereby appoint Hugh H. Jones my son in law and my son Thomas Maurice Executors to this my last Will and Testament hereby revoking all former Wills made by me.
On witness whereof I hereunto set my hand and seal this fourth day of April in the year of our Lord one thousand eight hundred and sixty seven.
the mark of Griffith Maurice.
The above instrument consisting of a half sheet was now here subscribed by Griffith Maurice the testator in the presence of each of us, and was at the same time declared by him to be his last Will and Testament and we at the same time at his request in his presence and in the presence of each other, sign our names as attesting witnesses.
William Lewis residing at Steuben in Oneida County
Evan Owens Jr residing in Trenton Oneida County