MR. THOMAS JONES, PEN YR HILL, DEERFIELD, NEW YORK.

Yn Deerfield, C. N., Mehefin 29ain,1843, yn y 74 flwydd o'i oed, Mr. Thomas Jones, Pen yr Hill, plwyf Deerfield, gynt o Dy'n Cornel, Llanuwchlyn - tad yn nghyfraith y Parch. James Griffiths o Utica a'r Parch. Thomas Edwards o Pittsburgh. Yr oedd y brawd hwn yn enedigol o Lanuwchlyn, swydd Feirionydd, Gogledd Cymru. Ymfudodd ef a'i deulu i'r wlad hon oddeutu 16 o flynyddau yn ôl. Bu am amryw o flynyddau yn analluog i ddyfod allan o'i anedd ond ychydig. Gwaelodd yn fawr yn ei iechyd ychydig fisoedd cyn ei farwolaeth. Yr oedd yn ofidus ei feddwl na buasai gwedi ymuno âe eglwys Dduw yn gynt; ac yn ôl ei ddymuniad rai misoedd cyn ei farwolaeth, derbyniwyd ef i gyflawn undeb yr eglwys Annibynol yn Deerfield, ac y mae genym hyder neillduol iddo roddi ei hun i'r Arglwydd.

Ar ddydd ei gladdedigaeth ymgasglodd tyrfa luosog o'i ffrindiau, yn Gymry a Saeson, i ddangos y gymwynas olaf iddo. Wrth ei anedd, cyn cychwyn y corff, darllenwyd a gweddiwyd gan y Parch. W. D. Williams, gynt o Ebensburgh. Yn y Capel gweddiwyd gan Mr. Rowland Griífiths, a phregethwyd oddiwrth Phil. 3 : 21 gan yr ysgrifenydd. S. A. Williams, Deerfield.

Y Cenhadwr Americanaidd ~ Awst 1843.

d