MR. THOMAS T. JONES, STEUBEN, ONEIDA, EFROG NEWYDD.
Rhag. 23, 1843, yn Steuben, swydd Oneida, C. N., yn 67 mlwydd oed, Mr. Thomas T. Joncs, gynt o'r Aber, yn agos i Fangor, swydd Gaernarfon, Gogledd Cymru.Yr oedd yn fab i Mr. John Maurice, Plas-newydd. Pan yn 22ain oed, ymunodd mewn priodas ag Elinor Rowlands, merch Mr. Rowland Williams, Tyddyn-isaf, plwyf Llanllechyd, yn y swydd uchod; yr hon a adawodd i alaru ar ei ol. Gadawodd hefyd dri o feibion a phedair o ferched.
Ymfudodd o Gymru i'r wlad hon yn y flwyddyn 1827. Yn mhen tair blynedd ymunodd a'r ail Eglwys o Fedyddwyr yn Steuben, a bu yn aelod hardd gydá'r Eglwys hono hyd ei farwolaeth.
Nid oedd ei iechyd yn dda er ys rhai blynyddau; ond ni chyfyngwyd ef i'w dỳ hyd o fewn saith wythnos cyn ei farwolaeth; ac am y tair wythnos olaf cyfyngwyd ef o fewn echwynion ei wely, pan y dyoddefodd boen mawr achystudd trwm.
Ar ddydd ei gladdedigaeth ymgynnullodd tyrfa luosog i dalu y gymmwynas olaf i'w ran farwol. Cyn cychwyn darllenodd a gweddiodd y Parch. Jesse Jones; yna cludwyd ei gorff i'r gladdfa, i orwedd (yn ol ei ddymuniad) yn agos iddei ŵyr, Roger Williams, yr hwn a fuasai farw yn yr un ystafell ag yntau, tua 5 wythnos o'i flaen.
Ar ol claddu, darllenodd a gweddiodd y Parch. John Jones, a phregethodd y Parch. Jesse Jones, mewn modd bywiog a gwresog.
Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Chwefror 1844
THOMAS T. JONES
THOMAS T. JONES, son of John Maurice, of Plas-Newydd, Aber, Carnarvonshire. North Wales, married Eleanor Rowlands, daughter of Rowland Williams (Tyddyn Isaf), Llanllechyd, Carnarvonshire.Their children were Hugh T. Jones (Y Coed); John T.; Griffith; Elizabeth, wife of Ellis Jones (Tyddyn-y-Felin); Ellen, second wife of Rowland Anthony; Catherine, wife of Thomas E. Williams (Bryn Gola); and Margaret (Mrs. John Johns). The family came to this country in 1828, though the eldest son, Hugh T., came in 1823, living for some years with Capt. Simeon Fuller. Thomas T. Jones died December 23, 1843; and his widow died August 7, 1847, aged seventy-two years.